Aethpwyd a dyn i’r ysbyty ag anafiadau difrifol i’w ben yn dilyn gwrthdrawiad yng nghanol dinas Caerdydd y bore ma.
Gwrthdarodd y dyn oedd ar droed â Ford Focus coch ar y cyffordd rhwng Dumfries Place a Stryd y Frenhines tua 5am.
Caewyd y ffordd am dair awr wrth i’r heddlu ymchwilio a symud y car.
Dylai unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad ffonio 01656 655555.