Toby Faletau
Mae Toby Faletau wedi dweud ei fod yn bryd i Gymru symud ymlaen o lwyddiant a siom eu hymgyrch yng Nghwpan Rygbi’r Byd, gan ddechrau yn erbyn Iwerddon heddiw.

Dywedodd fod y bencampwriaeth yn “ddechrau newydd” i Gymru wrth iddyn nhw wynebu tîm fydd eisiau dial ar ôl buddugoliaeth y crysau cochion yn Wellington bedwar mis yn ôl.

Roedd wythwr Dreigiau Casnewydd-Gwent yn rhan hollbwysig o ymgyrch y Cymry wrth iddyn nhw gyrraedd rownd y pedwar olaf am y tro cyntaf ers 1987.

Ond er gwaetha’r llwyddiant – a’r siom na lwyddon nhw i gyrraedd eu rownd derfynol cyntaf – dywedodd Toby Faletau ei fod yn bryd symud ymlaen.

“Mae’n bwysig nad yw’r tîm yn byw ar ein llwyddiant yng Nghwpan Rygbi’r Byd,” meddai’r chwaraewr 21 oed.

“Rhaid i symud ymlaen. Mae’n ddechrau newydd. Rydyn ni’n dechrau o’r dechrau’r penwythnos yma, a gobeithio yn codi momentwm.”

Roedd gwaith Faletau, Dan Lydiate a Sam Warburton yn y rheng ôl yn hanfodol i fuddugoliaeth 22-10 Cymru yn erbyn Iwerddon yng Nghwpan y Byd.

Mae Lydiate wedi ei anafu ac fe fydd cyn-gapten Cymru, Ryan Jones, yn cymryd ei le yn y crys rhif chwech.

“Mae Ryan yn chwaraewr gwych, felly fe fydd yn bosib gwneud yr un peth eto,” meddai Toby Faletau.

“Mae’n rhaid i ni atal eu rheng ôl nhw sy’n cynnwys sawl chwaraewr gwych sy’n hollbwysig i’r tîm.”