Brendan Rodgers
Mae hyfforddwr Abertawe, Brendan Rodgers, wedi dweud ei fod wrth ei fodd yn cael cynnwys Gylfi Sigurðsson yn ei dîm yn dilyn buddugoliaeth 2 – 1 yr Elyrch dros West Brom ddoe.
Dywedodd Brendan Rodgers fod seren ryngwladol Gwlad yr Iâ wedi gwneud argraff fawr arno yn Reading, a bellach wedi ymuno ag Abertawe ar fenthyg o Hoffenheim.
Sgoriodd Sigurðsson ei gôl gyntaf i’r clwb ac yna helpu i greu’r ail ar gyfer Danny Graham.
“Roeddwn i wedi ei gynnwys yn y tîm pan oeddwn i’n rheolwr Reading felly rydw i’n gwybod popeth amdano,” meddai Rodgers.
“Roeddwn i’n teimlo fod angen chwaraewr canol cae ymosodol arnom ni yn ail hanner y tymor ac mae wedi llenwi’r bwlch yn berffaith.
“Doedd dim angen ei annog i ddod yma. Mae’n gwybod sut ydw i’n gweithio ac roedd yn dalent gwych yn Reading. Fe sgoriodd 20 gôl y tymor yna.
“Rydw i wedi cadw cysylltiad â fo ac mae wedi llenwi’r bwlch yn berffaith fan hyn.
“Mae wedi cael cyfnod anodd yn Hoffenheim dan reolaeth tri dyn gwahanol.
“Mae’n foi clyfar iawn, yn deall pêl-droed Prydeinig ac yn gwybod sut ydw i’n gweithio.”
Ychwanegodd Brendan Rodgers ei fod wrth ei fodd fod Abertawe wedi llwyddo i ennill oddi cartref, yn dilyn eu buddugoliaeth fis diwethaf dros Aston Villa.
“Fe fydden ni wedi gallu sgorio pedair neu bump. Rydyn ni’n glwb bach yn brwydro i ennill parch drwy chwarae’n dda. Rydyn ni’n cadw’r ffydd yn ein ffordd o chwarae.
“Roedden ni’n gwybod fod angen i ni wella ein record oddi cartref, ac rydyn ni wedi sicrhau ambell i fuddugoliaeth dda.”