Llys Ynadon Caerdydd
Mae dyn 18 oed wedi ymddangos gerbron llys ar gyhuddiad o lofruddio dyn 64 oed.
Mae Bleddyn Rees King, o Ffordd Abercynon, Abercynon wedi ei gyhuddo o ladd David Evans.
Cafwyd hyd i gorff David Evans yn dilyn tân yn ei dŷ yng Nghefn Bychan, Pentyrch toc wedi 2.30am fore dydd Gwener.
Cafodd King ei arestio’n ddiweddarach y diwrnod hwnnw a’i holi gan Heddlu De Cymru dros y penwythnos.
Neithiwr cafodd ei gyhuddo o lofruddiaeth.
Fe ymddangosodd King, 18 oed, gerbron Llys Ynadon Caerdydd bore ma. Fe siaradodd i gadarnhau ei enw, ei oedran, a’i gyfeiriad yn unig.
Cafodd yr achos ei gyfeirio i Lys y Goron Caerdydd lle fydd King yn ymddangos ddydd Mercher. Fe fydd yn cael ei gadw yn y ddalfa.
Yn y cyfamser dywed yr heddlu eu bod yn dal i apelio am wybodaeth i farwolaeth David Evans.
Mae nhw’n apelio ar bobl i’w ffonio ar 02920 571530 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555111.