Cyngor Sir Penfro
Mae archwiliad arbennig i Gyngor Sir Penfro wedi dweud bod gan y cyngor “nodweddion cadarnhaol” ond bod angen i’r cyngor fod yn fwy ffurfiol. Dyna gasgliad adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw.

Yn ôl yr adroddiad gan  Archwilydd Cyffredinol Cymru, mae gan Gyngor Sir Penfro ddiwylliant cadarnhaol o barch ac ymddiriedaeth, ond mae gormod o anffurfioldeb a diffyg herio effeithiol a chyson wedi gwanhau atebolrwydd, sy’n golygu bod y Cyngor yn agored i beryglon diangen.

Cafodd yr archwiliad arbennig ei gynnal mewn ymateb i ddau adroddiad beirniadol o’r  Cyngor gan Estyn ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.

Roedd y ddau adroddiad yn canolbwyntio ar blant a phobl ifanc ond hefyd yn cyfeirio at fethiannau yn arferion yr awdurdod a diffyg llywodraethu effeithiol wrth ddiogelu ac amddiffyn plant.

Gwendidau

Bu’r archwiliad yn ystyried a oedd y gwendidau yn ehangach na’r rhai a nodwyd yn y ddau adroddiad, yn enwedig a oedd gwendidau atebolrwydd a llywodraethu democrataidd yn rhai systemig.

Gwelodd yr archwiliad fod rhai agweddau cadarnhaol iawn yn niwylliant y Cyngor a’r modd y mae’n gweithredu, ond bod angen gwella rhai arferion rheoli a bod angen i Gynghorwyr ymgysylltu’n well. Nid oedd yr archwiliad yn credu bod angen cyflwyno newidiadau cynhwysfawr i fodelau rheoli a llywodraethu.

Gwelliannau

Ond mae’r adroddiad yn dweud bod angen cyflwyno gwelliannau. Roedd gormod o anffurfioldeb o fewn y cyngor yn fater penodol, gan ei fod yn arwain at lai o atebolrwydd.

Roedd yr adroddiad yn nodi nad oedd digon o sylw’n cael ei roi i gofnodi trafodaethau, camau gweithredu, penderfyniadau neu ganlyniadau’n briodol gan olygu bod y cyngor yn fwy agored i beryglon oherwydd ei bod yn anoddach sicrhau bod pobl yn atebol.

Mae dweud heyfd bod yna ddiffyg dealltwriaeth ac eglurder ynghylch rhai swyddogaethau a chyfrifoldebau hefyd ynghyd â diffyg tryloywder sy’n golygu bod anghysondebau o ran herio a chraffu’n effeithiol ar bolisïau a phenderfyniadau.

‘Atebol’

Dywedodd Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru:  “Rwy’n fodlon, yn ôl tystiolaeth ein harchwiliad, nad oes angen i Gyngor Sir Penfro ailwampio ei systemau llywodraethu a rheoli’n llwyr a gall y cyhoedd fod yn hyderus bod y Cyngor yn cydymffurfio â’i ofynion statudol i wella pethau.

“Wedi dweud hynny, mae angen i’r Cyngor fynd i’r afael â rhai arferion rheoli, fel cyflwyno rhagor o fecanweithiau ffurfiol er mwyn sicrhau ei fod yn gwbl atebol am ei benderfyniadau a’i gamau gweithredu.”