Wyddfa
Bydd tîm o gyn-filwyr sydd wedi eu hanafu yn dringo i ben yr Wyddfa a chynnau ffagl er mwyn dathlu Jiwbili’r Frenhines eleni.

Mae’r dynion yn gwneud y daith gydag elusen Walking with the Wounded, ar y cyd â thair elusen arall, er mwyn cyrraedd copaon bob un o uchelfannau’r DU gyda’u ffaglau tân ar ddiwrnod Jiwbili’r Frenhines.

Bydd tîm o Help For Heroes yn dringo i gopa Ben Nevis (4,409 troedfedd) yn yr Alban, a chynrychiolwyr Cancer Research yn dringo i ben Scafell Pike (3,209 troedfedd) yn Lloegr, tra bod dringwyr o Field of Life yn mynd i ben Slieve Donard (2,789 troedfedd) yng Ngogledd Iwerddon.

Yr Wyddfa yw ail fynydd mwyaf y DU, ar uchder o 3,560 troedfedd – ac i ben honno y bydd dringwyr Walking with the Wounded yn mynd a’u ffagl.

Bydd cyfanswm o 2,012 o ffaglau yn cael eu goleuo ar draws y DU, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, a’r Gymanwlad ar 4 Mehefin eleni, gyda’r Frenhines yn goleuo’r ffagl olaf yn Llundain y noson honno.

‘Dyfodol gwell’

Bydd pump milwr arall, a anafwyd yn Afghanistan, yn ceisio concro mynydd uchaf y byd ar ran Walking with the Wounded erbyn Jiwbili’r Frenhines hefyd. Bydd y pump yn mentro llethrau mynydd Everest bythefnos union cyn dathliad 60 mlynedd o deyrnasiad y Frenhines.

Yn ôl un o sefydlwyr yr elusen, Ed Parker, mae’r dynion hyn wedi “gwasanaethu Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi yn ffyddlon iawn, felly mae’n anrhydedd i Walking with the Wounded gael bod yn rhan o ddathlu ei Jiwbili.

“Rydyn ni’n cymryd camau ar gyfer dyfodol gwell,” meddai.

Yn ôl Bryn Parry, sefydlwr elusen Help for Heroes, mae’r elusen yn “gyffrous iawn am y cyfle i gael cynnau un o’r ffaglau yn nathliadau Jiwbili Deiamwnt y Frenhines. Rydyn ni’n gwybod y bydd hyn yn ddigwyddiad cwbwl unigryw ac yn brofiad unwaith mewn oes i’r rheiny sy’n cymryd rhan.”