Fe fydd dyn 18 oed yn mynd gerbron llys heddiw ar gyhuddiad o lofruddio ar ôl i ddyn 64 oed gael ei ddarganfod yn farw yn dilyn tân mewn tŷ ym Mhentyrch ger Caerdydd ddydd Gwener.

Cafodd corff David Evans ei ddarganfod yn y byngalo yng Nghefn Bychan, Pentyrch, Caerdydd, wedi i Heddlu De Cymru gael eu galw yno am 3.02am fore dydd Gwener diwethaf.

Mae disgwyl i’r dyn 18 oed o Abercynon ymddangos o flaen llys ynadon yng Nghaerdydd yn ddiweddarach heddiw i wynebu cyhuddiad o’i lofruddio.

Mae Heddlu De Cymru yn galw ar unrhywun sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar 101, neu gysylltu â Taclo’r Taclau ar 0800555111.