Saith Seren
Bydd canolfan i ddenu pobl yn Wrecsam a’r cylch i gymdeithasu a gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn agor yn ffurfiol yn Wrecsam heddiw.
Mae Canolfan Gymraeg Wrecsam wedi adnewyddu hen dafarn y Seven Stars ar Stryt Caer, cyfieithu’r enw a’i ail agor er mwyn hybu’r deunydd o’r Gymraeg yn y dref trwy ddarparu bwyd, diod, adloniant, cyfleusterau cymunedol a swyddfeydd yno.
Bydd cyn reolwr Wrecsam, Dixie McNeal, a chyn ddysgwr y flwyddyn ac aelod o Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam, Spencer Harris, ymlith y rhai fydd yn yr agoriad.
“Mae Spencer a Dixie mewn gwahanol ffyrdd yn arwyr lleol,” meddai Cadeirydd Saith Seren, y cynghorydd Marc Jones, “ ac yn ogystal a hybu’r iaith a’r diwylliant Cymraeg ym mhob agwedd o fywyd, bwriad Saith Seren hefyd yw dathlu llwyddiannau lleol a hybu balchder yn Wrecsam. Mae Spencer a Dixie wedi gwneud eu rhan yn hyn o beth” meddai.
Bydd cwsmeriaid yn cael cyfle hefyd i enwi cwrw newydd sy’n cael ei fragu gyda help Pene Coles o fragdy lleol Sandstone. Mae Mr Coles yn un o gyfarwyddwyr y ganolfan. Bydd modd hefyd blasu bwyd lleol a chwrw o rannau eraill o Gymru.