Imogen Thomas
Yr wythnos hon mae Imogen Thomas wedi datgelu bod ei bronnau ffug yn berffaith iach.

Roedd seren Big Brother a chyn-feistres Ryan Giggs wedi bod yn poeni ei bod hi ymhlith nifer o fenywod o Gymru sydd wedi derbyn mewnblaniadau’r fron gan gwmni PIP o Ffrainc.

Ond mewn neges ar twitter mae hi wedi cadarnhau nad oes ganddi’r math llygredig o fronnau ffug o Ffrainc.

‘I’ve just found out I do not have PIP implants. So happy :-) thanks’ meddai neges ganddi ar ei chyfrif twitter.

Mewn neges bryderus gynharach ar Twitter, dywedodd ei bod yn poeni’n arw bod ei mewnblaniadau wedi dod o gwmni PIP yn Ffrainc, sydd wedi cael ei gau lawr yn ddiweddar ar ôl iddi ddod i’r amlwg eu bod yn defnyddio silicôn nad oedd yn cyrraedd safonau meddygol.

Cafodd Imogen Thomas ei mewnblaniadau yn 2008. Fe werthodd cwmni Ffrengig PIP 40,000 o fewnblaniadau rhwng 2001 a 2010.