Leanne Wood
Dylai tir y Goron gael ei roi yn ôl yn nwylo Cymru, yn ôl un o’r ymgeiswyr ar gyfer arweinyddiaeth Plaid Cymru heddiw.
Mae Leanne Wood wedi galw am drosglwyddo tir y Goron yng Nghymru yn ôl i ddwylo’r Cymry heddiw, er mwyn sicrhau bod gan Gymru reolaeth dros ei hadnoddau naturiol ei hun.
Mae ystâd y Goron yn cynnwys holl arfordir Cymru, hyd at 12 milltir i mewn i’r môr, yn ogystal â 3,000 o erwau o dir ar arwynebedd Cymru.
Fe gynhyrchodd ystâd y Goron elw o oddeutu £2.3 miliwn yn 2009-10, dim ond o’i hadnoddau yng Nghymru, gyda derbyniadau cyfalaf gwerth £1.8 miliwn.
Mae’r arian yma’n cael ei dalu yn syth i’r Trysorlys yn Llundain – ond heddiw mae Leanne Wood wedi galw am roi’r cyfrifoldeb, a’r cyllid sy’n codi o dir y Goron, yn ôl yn nwylo’r Cymry.
“Ein hasedau pennaf yng Nghymru yw’n hadnoddau naturiol,” meddai Leanne Wood heddiw, ac mae’n dweud y byddai’r tir sydd ar ystâd y Goron ar hyn o bryd yn gyfraniad pwysig tuag at reoli adnoddau naturiol Cymru.
“Mae ganddon ni botensial enfawr i greu ein hynni cynaliadwy ein hunain,” meddai Leanne Wood.
“Mae gennym y gallu i fod yn hunan-gynaliadwy o safbwynt ynni – ac fe fydd hynny yn hollbwysig yn y dyfodol pan fydd tanwydd ffosil yn dod yn ddrutach ac yn fwy prin.
“Bydd y costau cynyddol ynghyd ag ystyriaethau amgylcheddol yn ein gorfodi i leihau ein hallyriadau carbon yn sylweddol.”
‘Nid pluo nythod pobol o’r tu fas’
Yn ôl Leanne Wood, mae angen i’r ynni sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru ddod â manteision amlwg i Gymru.
“Dylai’r elw a grëir diolch i ynni’r gwynt, yr haul a’r dŵr – a allai fod yn sylweddol iawn mewn blynyddoedd i ddod – aros yma er mwyn bod o fudd i bobl Cymru,” meddai.
“Pan oedd y diwydiant glo ar ei anterth, fe grëwyd enillion enfawr diolch i adnoddau naturiol Cymru ond fe gollwyd bron bob ceiniog i bluo nythod pobl tu fas i Gymru.
“Allwn ni ddim caniatáu i hynny ddigwydd eto.”
‘Mater allweddol i’r dyfodol’
Mae’r Aelod Seneddol Jonathan Edwards, sydd yn cefnogi ymgyrch Leanne Wood am yr arweinyddiaeth, yn dweud y gallai adnoddau naturiol Cymru ddod yn “fater diffiniol” yng ngwleidyddiaeth Cymru yn y dyfodol.
“Mae Cymru yn cynhyrchu ddwywaith gymaint o drydan ag yw hi’n ei defnyddio,” meddai, “eto rydym yn diodde’r prisiau ynni uchaf.”
Yn ôl Jonathan Edwards, mae pleidiau San Steffan yn “hapus i’n hadnoddau naturiol gael eu hecsbloetio gan eraill,” ond dywedodd fod Plaid Cymru yn credu y dylid defnyddio’r adnoddau yn “strategol i greu economi ddeinamig ac i ddelio â’r materion cyfiawnder cymdeithasol rydym yn eu hwynebu.
“Tra bod y pleidiau unoliaethol yn credu mewn dyfodol lle rydym yn ddibynnol ar arian sy’n cael ei drosglwyddo o Lundain, rydym ni am weld dyfodol lle rydym yn defnyddio ein hadnoddau i greu cyfoeth er mwyn gwella bywydau ein pobl.”