Irene Lawless
Dywed Heddlu Dyfed Powys bod dau ddyn, 20 a 30 oed, oedd wedi cael eu harestio ar amheuaeth o helpu troseddwr, wedi cael eu rhyddhau ar fechniaeth.

Mae’r heddlu’n dal i holi dyn 26 oed gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddio gwraig 67 oed yn Llanllwni, Sir Gaerfyrddin.

Cafwyd hyd i gorff Irene Lawless yn ei chartref ar ystâd Bryndulais, brynhawn Llun.

Fe gadarnhaodd yr heddlu eu bod nhw wedi dod o hyd i gar Audi A3 du Irene Lawless  yng Nghaint.

Mae’r heddlu hefyd wedi cadarnhau mai yng Nghaint y cafodd y tri dyn eu harestio.

Mewn datganiad, dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Pam Kelly heddiw fod yr “ymchwiliad yn parhau a bod un person yn y ddalfa ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth. Cafodd y person hwn, a dau arall, eu harestio yn ardal Caint.”

Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth ynglyn â marwolaeth Irene Lawless i gysylltu â’r heddlu ar 101.

Teyrnged

Heddiw fe fu teulu Irene Lawless  yn talu teyrnged iddi.

Dywedodd ei mab Jason ei bod yn “fam a mamgu gariadus, oedd yn mwynhau’r ardd, anifeiliaid a darlunio.”

Dywedodd ei brawd Phil ei bod yn “chwaer arbennig”  – ac mae wedi apelio am lonydd i’r teulu alaru.

Roedd cymdogion lleol wedi ei disgrifio fel gwraig “hoffus ac annibynnol” ac mae’r teulu wedi apelio ar y gymuned leol i helpu’r heddlu gyda’u ymholiadau.

Roedd Irene Lawless wedi byw ar Ystad Bryndulais ers nifer o flynyddoedd ac mae ei marwolaeth wedi bod yn sioc i’r gymuned.