Mae Aelodau Cynulliad o’r bedair blaid wedi uno heddiw i alw am reolau mwy llym ar gwmniau benthyciadau diwrnod cyflog.
Mae’r Aelodau Cynulliad wedi datgan pryder ynglyn â’r ffaith fod nifer cynyddol o bobol dlawd a bregus yng Nghymru yn cael eu targedu gan gwmniau benthyg “anghyfrifol.”
Wrth arwain y drafodaeth yn y Senedd heddiw, dywedodd AC Plaid Cymru, Simon Thomas, y dylai Llywodraeth Cymru bennu uchafswm ar y cyfradd llog sydd gan gwmniau yw hawl i’w godi – sy’n gallu bod ymhell dros 1,000% y flwyddyn.
Galwodd ACau eraill am hyrwyddo benthycwyr cyfrifol, fel Undebau Credyd, a bod pobol yn derbyn mwy o wybodaeth ynglyn â benthyciadau.
Dywedodd Simon Thomas heddiw fod hysbysebion yn canolbwyntio gormod ar “ba mor gyflym a syml yw menthyg arian,” a’u bod nhw’n trafod arian yr ad-daliadau “yn nhermau £20 a £30”.
“Mae’n anodd i gwsmeriaid wneud penderfyniad ar sail cyfraddau llog go iawn,” meddai.
“Mae cyflymder y broses ar y gwefannau yma yn awgrymu nad oes unrhyw arolwg manwl yn cael eu wneud i weld a fydd pobol yn gallu fforddio i’w talu’n ôl.
“Dywedodd y Swyddfa Cyngor ar Bopeth wrtha i fod un dyn o Orllewin Cymru, oedd yn ddi-waith ac yn defnyddio cyffuriau, wedi cael un benthyciad ar lein o £650 – a dyfodd i £1,500 o ddyled, gyda’r gyfradd llog yn £8 y dydd. Does dim un ffordd fod y benthycwr yna wedi cael ei asesu’n gywir.
“Dydw i ddim yn awgymu y dylai pob benthycwr gael eu hatal, ond, mae rhai arferion yn ymddangos yn anheg iawn – fel cymryd benthyciad arall i dalu am ddyled, a chaniatau unigolion i dynnu sawl benthyciad diwrnod cyflog allan ar unwaith.
“Dylai fod uchafswm ar y cyfraddau llog gormodol sy’n gallu cael eu codi – fel sy’n digwyddodd mewn sawl talaith yn yr Unol Daleithiau ac ar draws y Gymanwlad.”