Elin Jones
Gallai Plaid Cymru arwain refferendwm ar annibyniaeth i Gymru o fewn degawd, yn ôl un o’r ymgeiswyr am arweinyddiaeth Plaid Cymru heddiw.

Yn ôl Elin Jones, fe fyddai dwy fuddugoliaeth yn olynol i Blaid Cymru yn etholiadau’r Cynulliad yn ddigon i’r blaid arwain refferendwm ar annibyniaeth i Gymru.

Dywedodd yr Aelod Cynulliad dros Geredigion fod plaid genedlaethol yr Alban, yr SNP, eisoes wedi gosod y cynseiliau ar gyfer refferendwm, ac y byddai gan Blaid Cymru ddigon o fandad i gynnal refferendwm annibyniaeth petai nhw’n cael llwyddiant tebyg i’r SNP yn y ddwy etholiad nesaf.

“Rwyf o’r farn yn bendant y byddai dwy fuddugoliaeth yn olynol i Blaid Cymru, fel sydd wedi digwydd gyda’r SNP yn Yr Alban, yn gallu arwain at refferendwm ar annibyniaeth i Gymru,” meddai Elin Jones.

‘Blaenoriaeth’

Dywedodd mai cynnal refferendwm ar annibyniaeth i Gymru fyddai un o’i blaenoriaethau petai’n cael ei hethol yn arweinydd i’r blaid.

“Rwyf am weld Plaid Cymru yn cymryd rhan lawn yn y drafodaeth er mwyn ein harwain i fod yn genedl annibynnol lwyddiannus,” meddai heddiw.

“Byddai buddugoliaeth i Blaid Cymru yn 2016, ac yna ail-ethol Llywodraeth Cymru o dan fy arweinyddiaeth i yn 2020 yn arwydd clir bod gennym y mandad i gychwyn ar y broses o gynnal refferendwm ar annibynniaeth.

“Dyma fy ngweledigaeth ar gyfer dyfodol Cymru – y weledigaeth gliriaf erioed i gael ei chyflwyno gan arweinydd Plaid Cymru dros sefydlu gwladwriaeth Gymreig annibynol,” meddai.

Cynhadledd ar annibyniaeth

Wrth drafod ei syniadau ar gyfer annibyniaeth heddiw, dywedodd Elin Jones fod angen i’r blaid “fod yn gliriach am ein huchelgais i Gymru, ac am ein hamcan cyfansoddiadol i Gymru.”

Un o’r cynigion sydd ganddi ar gyfer sicrhau hynny yw cynnal trafodaeth mwy manwl o oblygiadau annibyniaeth i Blaid Cymru.

“Un o brif ymrwymiadau fy nghais i arwain y Blaid yw’r addewid i drefnu cynhadledd gyntaf erioed y blaid i drafod y ffordd tuag at annibyniaeth, ble byddwn yn cytuno ar ac yn cyflwyno siwrnai gam-wrth-gam i bobl Cymru,” meddai.

“Mae yna ddyhead o fewn Plaid Cymru i amlinellu’n glir i ni’n hunain, ynghyd ag i bobl Cymru, ein llwybr tuag at annibyniaeth, beth yr ydym yn ei olygu wrth annibyniaeth a’r dewisiadau sy’n wynebu pobl Cymru ar y llwybr yna.”

Daw datganiad gan Elin Jones oriau’n unig o flaen cyhoeddiadau mawr yr SNP ar gynnal refferendwm yn yr Alban heddiw. Y prynhawn yma fe fydd Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, yn lansio ymgynghoriad cenedlaethol ar annibyniaeth i’r Alban yn Holyrood, gyda’r bwriad o gynnal refferendwm ar annibyniaeth i’r wlad yn 2014.