Y pedwar ymgeisydd
Gyda dim ond 24 awr ar ôl cyn cau enwebiadau ar gyfer arweinyddiaeth Plaid Cymru, mae’r blaid wedi dechrau ymgyrch munud olaf i annog aelodau newydd i ymuno.

Bydd Plaid Cymru yn cyflwyno neges arbennig – “Caru Cymru, Ymuna â’r Blaid” – ar Ddydd Santes Dwynwen – nawddsant cariad Cymru.

Bydd y neges, sy’n cael ei anfon allan drwy neges destun, e-bost a drwy Facebook a Twitter i ddegau o filoedd o gefnogwyr yn eu gwahodd i ymuno a’r Blaid erbyn hanner nos fory er mwyn cael pleidlais yn yr etholiad i ddewis arweinydd newydd i olynu Ieuan Wyn Jones. Y pedwar sydd yn y ras yw Leanne Wood, Elin Jones, Dafydd Elis-Thomas a Simon Thomas.

Mae’r Blaid eisoes wedi gweld “cynnydd sylweddol yn ei aelodaeth dros y tri mis diwethaf,” medden nhw.

‘Cyfnod cyffrous’

“Wrth i ni ddathlu dydd Santes Dwynwen, pa ffordd well i ddangos eich cariad tuag at eich cenedl na thrwy ymuno a’r unig Blaid genedlaethol yng Nghymru yn ystod y cyfnod cyffrous hwn,” meddai Dafydd Wigley.

“Nid ydi hi’n rhy hwyr – bydd gan unrhyw un sy’n ymuno cyn hanner nos fory bleidlais i benderfynu pwy fydd yn arwain Plaid Cymru.”

Mae ‘Dydd Santes Dwynwen Hapus’ yn trendio drwy Brydain ar wefan ryngweithio Cymdeithasol Twitter heddiw.