Leanne Wood
Mae Plaid Cymru wedi galw am ymchwiliad gan Lywodraeth San Steffan  i rôl banc, sydd mewn dwylo cyhoeddus, ym methiant  Peacocks– a chamau brys i helpu’r cwmni a’r gweithwyr a gollodd eu swyddi.

Fe gyhoeddodd Grŵp Peacocks, sydd a’i bencadlys yng Nghaerdydd, y byddai 250 o bobl yn colli eu swyddi ar ôl i fanciau, gan gynnwys RBS, wrthod parhau i fenthyca i’r cwmni.

Dywedodd Leanne Wood o Blaid Cymru bod gweithredoedd y banc yn ‘warth cenedlaethol’, gan ddweud fod gan gwmni gafodd ei achub gan y trethdalwr oblygiad moesol i wasanaethu buddiannau’r cyhoedd.

Dywedodd Leanne  Wood y dylai Llywodraeth San Steffan gynnal ymchwiliad i weld sut y caniatawyd i’r fath sefyllfa ddatblygu, a chymryd camau i ofalu fod banciau sydd yn nwylo’r cyhoedd yn gwneud popeth yn eu gallu i ddiogelu swyddi yn ystod yr argyfwng economaidd presennol.

‘Methiant rhyfeddol’

Dywedodd Leanne Wood, AC Plaid Cymru dros Ganol De Cymru: “Mae achos Peacocks ar hyn o bryd yn dangos methiant rhyfeddol o’r ffordd y dylai llywodraeth weithio.

“Pan fo banc sydd ym meddiant Llywodraeth y DU yn chwarae rhan allweddol yn caniatáu i fusnes Cymreig pwysig fynd i ddwylo’r gweinyddwyr, gan golli bron i 250 o swyddi, mae rhyw ddrwg yn y caws yn rhywle.”

‘Penderfyniad cibddall’

Ychwanegodd y dylai Llywodraeth San Steffan fod yn gofyn cwestiynau treiddgar yn dilyn y digwyddiad  – “a rhaid iddynt weithredu ar unwaith er mwyn gofalu y gwrth-droir penderfyniadau cibddall RBS ac na fydd mwy o swyddi dan fygythiad.

“Dylai Llywodraeth Cymru hefyd roi pwysau ar RBS. Mae’r banc yn un o ‘Gwmnïau Angor’ Llywodraeth Cymru, sy’n golygu y dylai perthynas agos ac adeiladol fodoli rhyngddynt.

“Mae Peacocks yn rhy bwysig i naill ai Lywodraeth Cymru na Llywodraeth y DU ganiatáu ei golli. Nid yn unig y mae Peacocks yn gyflogwr sylweddol yng  Nghymru, mae hefyd yn gwmni â’i bencadlys yng Nghymru sydd wedi dangos y gall gystadlu yn y farchnad fyd-eang heddiw.

“Dylai Gweinidogion yng Nghaerdydd a Llundain fod yn blaenoriaethu’r sefyllfa hon er mwyn helpu’r sawl sydd wedi colli eu swyddi,  ac atal unrhyw ddifrod pellach.”