Mae pryderon mawr ynglŷn â phrinder plismyn i wasanaethu Gogledd Cymru, wrth iddi ddod i’r amlwg fod ail-strwythuro Heddlu’r Gogledd wedi gadael nifer o ardaloedd gwledig heb ddim heddweision.

Mae’r Aelod Seneddol Elfyn Llwyd wedi rhybuddio heddiw y byddai ardaloedd o ogledd Cymru yn fregus iawn pe byddai bygythiad i’w diogelwch, gan nad oes heddweision wedi eu lleoli gerllaw.

Mae’r pryderon yn deillio o ad-drefniant yn strwythur Heddlu Gogledd Cymru fis Mai y llynedd, fel rhan o gynllun pedair blynedd i arbed £15 miliwn.

‘Pryderus’

Yn ôl Elfyn Llwyd, mae’r ad-drefniant wedi canolbwyntio gormod ar “ardaloedd sy’n agos at yr A55,” a hynny ar draul ardaloedd gwledig y gogledd.

“Rwy’n gwybod fod Cyngor Tref Pwllheli, fel finnau, wedi codi’r mater hefo’r Prif Gwnstabl, a gwn fod trefi eraill yn ardal Dwyfor Meirionnydd yn bryderus, yn bennaf Tywyn, lle does dim ond un swyddog cymuned,” meddai.

Dywedodd hefyd ei bod hi’n “ffaith fod cyn lleied a dau neu dri heddwas ar ddyletswydd ar nos Sadwrn yn hen sir Feirionnydd ar sawl penwythnos yn ystod y misoedd diwethaf.

“Mae’n gas gen i feddwl be fyddai’n digwydd pe bai digwyddiad difrifol mewn tref yn yr ardal,” meddai.

Argyfwng

Mae’r Aelod Seneddol hefyd wedi beirniadu’r penderfyniad i ganoli’r swyddogion ymateb argyfwng i dim ond naw canolfan, a’r rheiny yng Nghaernarfon, Bae Colwyn, Corwen, Dolgellau, Llangefni, yr Wyddgrug, Porthmadog, Llanelwy a Wrecsam.

“Dydi ‘rapid response‘ ddim yn golygu llawer pan fo’r heddlu’n gorfod teithio o Borthmadog i Aberdaron, neu o Ddolgellau i Dywyn,” meddai.

“Rwy’n annog yr Awdurdod a’r Prif Gwnstabl i ailystyried y cynllun cyfan oherwydd nad ydi o’n cydymffurfio gyda chanllawiau profi effaith ar gefn gwlad.”

‘Siom’

Dywedodd fod “pobol sy’n byw mewn ardaloedd gwledig yn cael eu siomi” gan y sefyllfa bresennol.

“Gobeithiaf y gwelwn ailystyriaeth ar frys cyn i ddigwyddiad difrifol gymryd lle.”

Mae Heddlu’r Gogledd yn cynnal arolwg mewnol o’r system newydd ar hyn o bryd, ac mae disgwyl i’r prif gwnstabl gwrdd a phrif swyddogion yr heddlu dros y dyddiau nesaf er mwyn asesu llwyddiant y system.

Mae disgwyl cyhoeddiad ar ddarganfyddiadau’r system yr wythnos nesaf.