Mae tri dyn wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth gwraig 67 oed ym mhentref Llanllwni yn Sir Gaerfyrddin, brynhawn ddoe.

Cafodd corff Irene Lawless ei ddarganfod yn ei chartref ar Ystâd Bryndulais, Llanllwni ddoe.

Mae Heddlu Dyfed Powys bellach wedi cadarnhau fod tri dyn wedi eu harestio yn dilyn y digwyddiad. Mae un dyn 26 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, a dau ddyn arall, 20 a 30 oed, wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r ystâd fach o rhyw ddwsin o dai brynhawn ddoe, ac erbyn hyn mae cortyn yr heddlu yn atal aelodau’r cyhoedd rhag mynd at y byngalo. Mae pabell fforensig hefyd wedi ei gosod tu allan i’r tŷ.

Yn ôl trigolion lleol, roedd Irene Lawless yn byw yn y byngalo ar ei phen ei hun, ac wedi ymgartrefu yn yr ardal ers blynyddoedd lawer a magu plant yno, er nad oedd hi’n dod o’r ardal yn wreiddiol.

Sioc

Mae’r newyddion am  lofruddiaeth Irene Lawless wedi achosi sioc a braw yn y gymuned, gyda phobl leol yn ei disgrifio fel menyw “hoffus ac annibynnol”.

Dywedodd y cynghorydd sir Linda Davies-Evans: “Mae hyn yn ddigwyddiad trasig mewn cymuned dawel lle mae pawb yn nabod ei gilydd.

“Mae’n gyfnod trist i’w theulu a’i ffrindiau a dwi’n cydymdeimlo â nhw i gyd,” meddai.

Mewn datganiad ar y cyd dywedodd yr Aelod Seneddol lleol Jonathan Edwards a’r Aelod Cynulliad Rhodri Glyn Thomas eu bod nhw wedi tristau o glywed y newyddion.

“Rydyn ni’n deall y bydd hyn yn amser anodd i’r gymuned wrth iddi ddod i delerau â’r newyddion trist.

“Mae’n meddyliau a’n gweddïau gyda’r teulu, ffrindiau a chymdogion ar amser trist fel hyn.”

Dywedodd yr heddlu fod y gymuned yn parhau i’w cynorthwyo gyda’r ymchwiliad, a’u bod eisiau diolch iddyn nhw am eu cymorth hyd yn hyn.

Mae’r heddlu yn galw am unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai eu helpu gyda’u hymchwiliad i’w ffonio ar 101.