Bydd Plaid Cymru yn cyhoeddi adroddiad yn nes ymlaen heddiw sydd wedi bod yn edrych ar yr hyn aeth o’i le yn dilyn ei chanlyniadau siomedig yn yr etholiad fis Mai y llynedd.

Eurfyl ap Gwilym, uwch ymgynghorydd economaidd Plaid Cymru sydd wedi bod yn arwain yr adolygiad. Mae pob agwedd o’r blaid wedi ei hystyried megis y strwythurau, yr aelodaeth, y ffyrdd o gyfathrebu a pholisi.

Mae Jill Evans ASE, Elfyn Llwyd AS, Jocelyn Davies AC, Dr Dafydd Trystan a Llyr Huws Gruffydd AC hefyd wedi bod ar y pwyllgor.

Tra’n casglu tystiolaeth, maen nhw wedi cynnal cyfarfodydd ar draws Cymru er mwyn cael gwybod barn y cyhoedd ynghylch y blaid gydag annibyniaeth yn bwnc oedd yn codi ei ben yn aml.

Ar gychwyn y broses fe ddywedodd Eurfyl ap Gwilym y bydden nhw’n taflu’r rhwyd yn eang.

“Rydan ni’n siarad gyda phobl o bleidiau eraill, rhai arbenigwyr yn y meysydd gwahanol, siarad siwr o fod gyda rhai o bobl o’r cyfryngau, siarad gyda rhai prifysgolion ac ati. Mae’n bwysig bod ni ddim jest yn edrych yn fewnol,” meddai.

Fe fydd yr adroddiad yn cynnwys argymhellion ar gyfer adfywio’r blaid yn y dyfodol ac yn dod mewn cyfnod pan mae’r ras am arweinyddiaeth y blaid wedi cychwyn er mwyn dod o hyd i olynydd i Ieuan Wyn Jones.

Pedwar enw sydd yn y ras sef yr Aelodau Cynulliad Elin Jones, Dafydd Elis-Thomas, Leanne Wood a Simon Thomas. Fe fydd yr ennillydd yn cael ei gyhoeddi ar y 15  Fawrth.