Hywel Williams AS
Mae AS Plaid Cymru wedi galw am fwy o gefnogaeth i’r diwydiant ffilm Cymreig fel rhan o’r Adolygiad Polisi Ffilm sydd wedi’i lansio heddiw.
Mae’r adolygiad, gan yr Arglwydd Smith, yn asesu sut y gall polisi Llywodraeth San Steffan gynorthwyo’r diwydiant ffilm yn y DU mewn gwell modd gan gynnwys sut y dylid gwario arian Loteri ychwanegol.
Ond, does “dim gair am ffilmiau Cymraeg na thechnegau goresgyn gwahaniaeth iaith,” ynddo, meddai Hywel Williams AS.
“Dengys poblogrwydd diweddar The Killing nad ydy is-deitlo yn rhwystr i lwyddiant cynnyrch da, heb son am lwyddiant ysgubol The Artist sy’n ffilm dawel!” meddai Hywel Williams AS.
“Er hynny nid oes gair yn yr adroddiad am ffilmiau Cymraeg na thechnegau goresgyn gwahaniaeth iaith. Yn wir ceir yr unig gyfeiriadau at ieithoedd eraill tra’n trafod ffilmiau tramor. Mae’n ymddangos nad ydy’r Gymraeg yn ‘British’!”
‘Gweledigaeth’
Dywedodd yr AS y dylai adolygiad o bolisi ffilm y DU gydnabod “y cynhyrchir ffilmiau rhagorol mewn ieithoedd heblaw am y Saesneg, megis Hedd Wyn, Solomon a Gaenor a Gadael Lenin.”
“Mae hyn yn gyfle i leoli ffilm a chynnyrch teledu o Brydain mewn cyd-destun Ewropeaidd amlieithog ac aml ddiwyllianniol, yn hytrach na’i fod o hyd o dan iau Hollywood.
“Yn anffodus mae’n ymddangos nad oedd gan yr adolygwyr y wybodaeth na’r weledigaeth eangfrydig i sylweddoli hyn.”
Dywedodd yr AS bod rhaid “mynnu gwell cydbwysedd os yw Cymru am gael ei sylw haeddiannol o fewn y diwydiant ffilm.”