Cynulliad Cymru yn drydded ar y rhestr
Mae’r sefyllfa i bobl hoyw a deurywiol sy’n gweithio yng Nghymru yn “well nac erioed” meddai Prif Weithredwr elusen Stonewall Cymru wrth Golwg360.

Fe fydd Stonewall Cymru yn cynnal seremoni Gwobrau Cymru ddydd Iau i ddathlu ’12 Cyflogwr Gorau yng Nghymru’.

Wythnos diwethaf, fe wnaeth Stonewall gyhoeddi canlyniadau arolwg o sut mae cyflogwyr yn trin eu staff – beth bynnag eu cyfeiriadedd rhywiol fel bod pawb yn cael eu trin yn gyfartal. Roedd yr arolwg hefyd yn mesur pa mor dda y mae amrywiaeth yn cael ei hyrwyddo a’i dderbyn o fewn y gweithle.

“Mae’n well nac erioed. Dyw pethe ddim yn berffaith  o bell ffordd. Ond yr arwyddocâd yw’r cyfeiriad mae pethe’n symud ynddi,” meddai Andrew White, Prif Weithredwr Stonewall Cymru.

“Does neb ar y rhestr yn cael pob dim yn iawn ond mae pawb ar y rhestr wedi ymrwymo i drio cael pethau’n well. Mae hyn yn bwysig,” meddai Andrew White.

12 o gyflogwyr

Fe fydd digwyddiad ddydd Iau yma i ddathlu lle 12 o gyflogwyr Cymru ar restr y lle gorau i weithio yng Nghymru ar gyfer pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn 2012.

Am y tro cyntaf erioed mae pedwar Heddlu Cymru wedi ennill lle ar restr Stonewall.

Am y bedwaredd flwyddyn o’r bron, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru sydd wedi dod i’r brig fel y lle gorau i weithio yng Nghymru ar gyfer pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn 2012.

Yr ail gyflogwr gorau yng Nghymru yw Lloyds Banking Group a Chynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n drydydd.

Mae’r rhestr 100 Cyflogwr Gorau yn seiliedig ar ganlyniadau Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall sy’n asesu ystod o ddangosyddion allweddol gan gynnwys arolwg boddhad staff o dros 7,500 o weithwyr lesbiaidd, hoyw a deurywiol.

Mae cyflogwyr eraill yng Nghymru a oedd wedi gwneud yn dda yn cynnwys y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy’n cyrraedd y 100 Uchaf am y tro cyntaf.