Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru wedi awgrymu creu siambr newydd o aelodau etholedig os fydd yr Alban yn gadael y Deyrnas Unedig.

Yn ôl adroddiad ar wefan The Guardian mae Carwyn Jones wedi son am siambr gyda thraean o seddi ar gyfer Cymru, traean ar gyfer Lloegr a thraean ar gyfer Gogledd Iwerddon.

Mae Prif Weinidog Cymru yn mynychu cynhadledd o Gyngor Prydain ac Iwerddon yn Nulyn sy’ hefyd yn cynnwys Dirprwy Brif Weinidog Prydain Nick Clegg, Alex Salmond Prif Weinidog yr Alban a Peter Robinson Prif Weinidog Gogledd Iwerddon.

Yn y gynhadledd mae Alex Salmond wedi addo y bydd yn cyhoeddi ei gynigion ar gyfer refferendwm tros annibyniaeth i’r Alban ar Ionawr 25.