Mae plant sydd ag asthma yn cael eu hatal rhag cael mynediad at anadlydd a allai arbed eu bywydau mewn ysgolion, mae elusen wedi rhybuddio.

Ar hyn o bryd, mae ysgolion yn cael eu hatal rhag cadw anadlydd asthma  yn eu blwch cymorth cyntaf am eu bod yn feddyginiaethau presgripsiwn yn unig.

Ond, mae Asthma UK yn dadlau bod hyn yn  rhoi bywydau plant mewn perygl pan fyddan nhw wedi anghofio dod a’u hanadlyddion eu hunain i’r ysgol neu fod eu hanadlydd wedi dod i ben.

Mae’r elusen yn galw am newid yn y rheolau er mwyn galluogi ysgolion i gadw anadlyddion yn eu blychau cymorth cyntaf.

Mae  1.1 miliwn o blant ym Mhrydain yn dioddef o asthma ac mae ychydig dros 30,000 yn gorfod cael triniaeth yn yr ysbyty oherwydd y cyflwr bob blwyddyn. Mae tua 1,100 o farwolaethau ynghlwm ag asthma bob blwyddyn sy’n effeithio oedolion a phlant.

Roedd arolwg o fwy na 200 o bobl ifanc ym Mhrydain yn dangos bod dwy ran o dair o blant rhwng 5-18 wedi cael pwl o asthma yn yr ysgol.

Roedd un o bob pump o blant yn dweud eu bod yn ei chael yn “eithaf anodd” neu “anodd iawn” i gael mynediad at eu hanadlydd asthma  yn yr ysgol. Doedd 55%  ddim bob amser yn gwybod ble oedd yr anadlydd na sut i gael ato.

Fe ddywedodd Emily Humphreys, pennaeth polisi a materion cyhoeddus Asthma UK ei bod yn hanfodol bod yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) yn newid y rheolau ac yn caniatáu ysgolion i gadw anadlydd wrth gefn fel y dewis olaf.

Roedd yr elusen yn dweud y gallai’r MHRA ddarparu eithriad i’r rheoliadau er mwyn galluogi ysgolion ar draws Prydain i stori anadlyddion asthma.