Heddiw, bydd cyfarfod rhwng Cynghrair Cyhoeddwyr a Chyfansoddwyr Cerdd,  PRS a’r BBC yn cael ei gynnal i drafod sefyllfa taliadau i gerddorion Cymraeg.

Fe wnaeth streic tridiau gan 500 o gerddorion Cymru ddod i ben  cyn y Nadolig yn dilyn trafodaethau gyda’r BBC.

Roedd y Gynghrair wedi dechrau streic fis Rhagfyr yn atal Radio Cymru rhag chwarae eu caneuon. Roedden nhw’n streicio yn erbyn y “taliadau pitw” y maen nhw’n eu cael gan y BBC am chwarae eu cerddoriaeth ar Radio Cymru.

Mae Golwg360 yn deall y bydd y Gynghrair yn cyfarfod Elan Closs Stephens “ar wahân” cyn y cyfarfod PRS heddiw i drafod  y sefyllfa a’i safbwynt hi.

Bydd Prif Weithredwr PRS Robert Ashcroft yn bresennol yn y cyfarfod heddiw ynghyd â Guy Fletcher Cadeirydd PRS, Mark Lawrence Cyfarwyddwr Aelodaeth a Hawliau PRS, James Lancaster Pennaeth Materion Busnes a Hawliau BBC a Rob Kirkham, Pennaeth Cytundebu Hawlfreintiau’r BBC.

Bydd Siân Gwynedd a Dewi Vaughan Owen yn cynrychioli BBC Cymru yn y cyfarfod.

Eisoes, mae aelod o’r gynghrair wedi dweud wrth Golwg360 ei fod yn gobeithio am “drafodaethau penagored”.

Fe fydd y cyfarfod yn cael ei gynnal am 11am heddiw yn y BBC yn Llandaf.