Kyle Griffith
Mae dyn 22 oed, gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddio yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ym Mae Caerdydd ddydd Mawrth, yn cael ei gadw yn y ddalfa.

Roedd Heddlu De Cymru wedi gwneud cais i gael ei holi am 36 awr ychwanegol.

Bu farw Kyle Griffith, 25 oed, ar ôl cael ei daro gan gar yn Stryd Iago, Bae Caerdydd yn oriau mân bore dydd Mawrth.

Roedd car  Fiat Cinquecento glas wedi bod mewn gwrthdrawiad gyda Kyle Griffith oedd yn cerdded ar hyd y pafin tua 3am. Roedd y car wedi methu ag aros ar ôl cael arwydd i neud hynny gan gar yr heddlu ynghanol dinas Caerdydd.

Cafodd gyrrwr y car ei arestio ar y safle ar amheuaeth o fod yn anghymwys i yrru oherwydd dylanwad alcohol neu gyffuriau.

Cafodd ei arestio eto’n ddiweddarach ar amheuaeth o lofruddio.

Mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio i’r digwyddiad ac yn apelio am dystion i’r digwyddiad neu unrhyw un a welodd y car Fiat Cinquecento glas cyn y gwrthdrawiad.

Roedd y car yn cael ei yrru drwy ganol y ddinas yn oriau mân y bore ac yn cael ei ddilyn gan gar yr heddlu.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu’r De ar 101 neu Taclo’r Tacle ar  0800 555 111.