Mae deiseb wedi’i chyhoeddi sy’n galw am enwi’r A470 yn ‘Brif Ffordd Tywysog Owain Glyndŵr.’

Mae’r  A470 yn rhedeg o Gaerdydd yn Ne Cymru i’r Gogledd.

Yn ôl trefnwyr y ddeiseb, roedd Llysgenhadaeth Glyndŵr wedi lansio ymgyrch yn y flwyddyn 2000 i newid enw’r ffordd i ‘Brif Ffordd Owain Glyndŵr’ fel coffâd i Glyndŵr am ei ymgyrch i adennill annibyniaeth i Gymru.

Roedd Cynulliad Cymru wedi “anwybyddu’r apêl yn y flwyddyn 2000” yn ôl y trefnwyr.

“Ond nawr, gan fod yna alw o gyfeiriad arall i ran o’r ffordd gael ei alw yn ‘Y Royal Welsh Way’ fel cydnabyddiaeth o’r Gatrawd Frenhinol sy’n talu llw o deyrngarwch i Frenhiniaeth a Threfn Loegr sy’n parhau i feddiannu Cymru, mae Llysgenhadaeth Glyndŵr wedi penderfynu ail gychwyn yr ymgyrch a lansiwyd gennym yn y flwyddyn 2000,” meddai’r trefnywr mewn datganiad.

Mae modd i unrhyw un sydd eisiau arwyddo’r ddeiseb wneud hynny drwy’r linc isod.


<http://www.gopetition.com/petitions/campaign-to-name-the-a470-cymru-prif-ffordd-tywysog-ow.html>