Mae gyrrwr a gafodd ei arestio yn oriau mân y bore ’ma ar ol i  ddyn gael ei daro gan gar yng nghanol Caerdydd, wedi cael ei ail-arestio y prynhawn ’ma ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Bu farw Kyle Griffith, 25 oed, o ardal Bae Caerdydd, ar ol bod mewn gwrthdrawiad gyda char Fiat Cinquecento yn Stryd Iago, Bae Caerdydd tua 3am bore ma.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru ond bu farw’n ddiweddarach.

Cafodd dyn 22 oed o Bentwyn yng Nghaerydd ei arestio ar y safle ar amheuaeth o fod yn anghymwys i yrru oherwydd dylanwad alcohol neu gyffuriau.

Heno, dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi ail-arestio’r gyrrwr ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Mae’r heddlu wedi cadarnhau eu bod wedi bod yn dilyn car oedd yn cael ei yrru trwy ganol y ddinas yn oriau mân y bore ’ma, a bod gyrrwr y car wedi methu â stopio ar ôl cael yr arwydd i dynnu i mewn gan yr heddlu.

Mae’r gyrrwr yn parhau dan glo.

Mae’r heddlu nawr yn apelio am dystion i’r digwyddiad, ac yn gofyn i unrhyw un a welodd y car Fiat Cinquecento glas cyn y digwyddiad, i gysylltu â nhw ar 101.

Mae’r heddlu yn parhau â’u hymchwiliad ac mae rhan o Stryd Iago yn dal ar gau.

Mae’r heddlu hefyd wedi cadarnhau bod y mater wedi cael ei gyfeirio at Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu.