Lesley Griffiths
Gall merched sydd wedi cael triniaeth breifat ar gyfer mewblaniadau i’r fron gael triniaeth gan y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru i’w tynnu a’u hailosod, meddai Llywodraeth Cymru heddiw.
Roedd gweinidogion eisoes wedi addo tynnu mewnblaniadau gan y cwmni Ffrengig PIP a osodwyd gan y Gwasanaeth Iechyd, a rhoi rhai eraill yn eu lle.
Ond heddiw, cyhoeddodd Gweinidog Iechyd Cymru, Lesley Griffiths y byddai’r cynnig hwnnw’n cael ei ymestyn i fenywod a gafodd y lawdriniaeth yn breifat hefyd.
Dywedodd Lesley Griffiths y byddai gwrthod y wasanaeth hyn yn peri “risg di-angen” i’r menywod hyn.
Er mwyn cael y driniaeth, bydd yn rhaid i fenywod brofi eu bod wedi ceisio cael eu cwmni preifat i wneud yn iawn am y sefyllfa, a’u bod yn byw yng Nghymru. Mae’n rhaid iddyn nhw hefyd fod wedi eu cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru.
Mae bron i 40,000 o fenywod yn y DU wedi derbyn y mewnblaniadau, a gynhyrchwyd gan y cwmni o Ffrainc sydd bellach wedi dod i ben.
Er bod adolygiad wedi dod i’r casgliad nad oedd cysylltiad rhwng y mewnblaniadau a chanser, darganfuwyd fod y mewnblaniadau wedi eu llenwi â “solicôn nad oedd o safon meddygol,” ac wedi ei fwriadu ar gyfer defnydd mewn matresi, yn hytrach na mewnblaniadau.
Dywedodd Lesley Griffiths, AC Wrecsam, eu bod nhw wedi “cyhoeddi yr wythnos diwethaf y byddai Gwasanaeth Iechyd Cymru yn tunnu mewnblaniadau PIP os, ar asesiad o angen clinigol, bod dynes a doctor yn cytuno mai dyma’r peth iawn i wneud.
“Fe ddywedon ni wedyn y byddai’r Gwasanaeth Iechyd yn rhoi mewnblaniadau eraill i mewn yn eu lle nhw, a heddiw rydyn ni’n mynd gam ymhellach wrth gyhoeddi y byddwn ni hefyd yn rhoi mewnblaniadau newydd i’r rheiny a gafodd y lawdriniaeth yn breifat.
“Gallai tynnu’r mewnblaniadau, heb roi rhai yn eu lle, achosi creithio, croen llac, ac o bosib hylifau yn ymgasglu yr angen i’w draenio, a haint posib.
“Mae rhoi menywod trwy dwy lawdriniaeth wahanol hefyd yn cynyddu’r risg o gymhlethdodau yn ddiangen.”
Ond dywedodd Lesley Griffiths y byddai mesurau diogelwch yn cael eu rhoi yn eu lle i “alw’r sector breifat i gyfri” a sicrhau bod “popeth posib” wedi ei wneud i sicrhau bod iawn yn cael ei wneud gan y cwmniau cosmetig preifat cyn bod y Gwasanaeth Iechyd yn camu mewn.