Mae Cyfarwyddwr yr Eisteddfod Genedlaethol wedi cadarnhau heddiw bod Llanuwchllyn yn “un o’r safleoedd sydd wedi’u cynnig fel cartref posib i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Meirionnydd.”
Fe ddywedodd Aled Siôn fod Llanuwchllyn yn un o nifer o safleoedd sydd wedi eu cynnig fel cartref posib i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Meirionnydd 2014, yn dilyn apêl am leoliadau addas i gynnal yr ŵyl.
“Rydyn ni’n falch iawn bod cynifer o ardaloedd ym Meirionnydd eisiau perchnogi’r ŵyl a chynnig safle iddi,” meddai’r Cyfarwyddwr.
Dywedodd mai’r cam nesaf yw y bydd y Pwyllgor Technegol lleol yn “archwilio’r holl safleoedd sydd wedi eu cynnig” ac yn paratoi adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith maes o law.
Mae wyth o safleoedd wedi’u hawgrymu ar gyfer yr Eisteddfod “o bob cwr o’r sir, ochrau Bala, ochrau Tywyn, ochrau Harlech.”