Mae cwmni JD Sports Fashion wedi cyhoeddi eu bod wedi prynu asedau Blacks Leisure, gan gynnwys 290 o’u siopau, am £20 miliwn.

Roedd JD Sports wedi prynu’r siopau, sy’n masnachu dan yr enwau Blacks a Millets, a gweddill y busnes yn syth ar ôl i Blacks Leisure gael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr.

Fe lwyddodd JD Sports i ennill y blaen ar gwmnïau Sports Direct, Trespass a Peter Jones i brynu’r cwmni.

Roedd Blacks wedi penodi KPMG fel gweinyddwyr ar ôl iddyn nhw fethu â dod o hyd i brynwr ar ôl rhoi’r cwmni ar y farchnad ym mis Rhagfyr yn dilyn gwerthiant siomedig.