Mae Prif Weithredwr S4C wedi croesawu “canlyniadau calonogol iawn” ar ôl i ffigyrau a gyhoeddwyd heddiw ddatgelu bod nifer gwylwyr S4C “wedi cynyddu” dros y flwyddyn 2011.

O ran cyfartaledd cyrhaeddiad wythnosol S4C yng Nghymru yn 2011 fe welwyd cynnydd o 7,000 – i fyny o 467,000 yn 2010 i 474,000, meddai’r ffigyrau.

Dros y Deyrnas Unedig, mae cyfartaledd cyrhaeddiad wythnosol y Sianel i fyny 2,000 ar y flwyddyn – o 616,000 yn 2010 i 618,000 yn 2011.

Mae cynnydd sylweddol wedi bod hefyd yn nifer y siaradwyr Cymraeg fu’n gwylio S4C yn 2011. Y cyfartaledd cyrhaeddiad wythnosol yn ystod y flwyddyn oedd 223,000 o wylwyr yng Nghymru – 26,000 yn uwch na 2010, meddai’r sianel.

Yn yr oriau brig, gwelwyd cynnydd o 1,000 ar y ffigwr yn 2010 – i fyny o 28,000 i 29,000.

“Mae’r canlyniadau hyn yn galonogol iawn ac yn profi bod mwy a mwy o wylwyr yn cael eu plesio gan yr amrywiaeth eang o raglenni sydd ar gael ar S4C,” meddai Arwel Ellis Owen, Prif Weithredwr S4C.

“Ein nod, hyd yn oed mewn cyfnod economaidd ariannol fel yr un sy’n bodoli ar hyn o bryd, yw sicrhau bod ein harlwy ar y sgrin yn un o safon uchel ac yn un sy’n bodloni nifer cynyddol o wylwyr yng Nghymru yn bennaf ond hefyd yng ngweddill y Deyrnas Unedig.”