Sasha Jarvis a Sian Gwenllian Lloyd Davies
Roedd “cannoedd” o bobl yn bresennol fore heddiw yn angladd merch a fu farw mewn gwrthdrawiad car yn Llanrug ddydd Calan, meddai cynghorydd lleol wrth Golwg360.

Fe gafodd angladd Sasha Jarvis, 19, oedd yn gymhorthydd yn Ysgol Gynradd Llanrug ei gynnal heddiw yn Eglwys Sant Padarn, Llanberis.

Eisoes, fe gafodd angladd ei ffrind Sian Gwenllian Lloyd Davies, a fu farw yn yr un gwrthdrawiad, ei gynnal ddydd Sadwrn yn Eglwys Sant Peris, Nant Peris.

Fe ddywedodd y cynghorydd Charles Wyn Jones, cynghorydd Plaid Cymru Llanrug wrth Golwg360 heddiw fod “cannoedd yn y gwasanaeth fore heddiw – a chriw helaeth o bobl ifanc yno.”

“Roedd y gwasanaeth yn un teimladwy iawn,” meddai’r cynghorydd.

“Fe wnaeth aelodau teulu Sian wneud teyrnged briodol ac addas iawn,” meddai cyn dweud bod marwolaethau’r ddwy ferch yn “drasig.”

Roedd Charles Wyn Jones yn bresennol fel cynghorydd Llanrug a Llywodraethwr yr ysgol ble roedd Sasha yn gweithio. Roedd Cadeirydd y Llywodraethwyr yn bresennol hefyd ynghyd a staff yr ysgol.

Mae’r heddlu yn parhau i ymchwilio wedi’r ddamwain  a laddodd  y ddwy yn Llanrug yn gynnar fore dydd Calan.

Roedd Siân Gwenllïan Lloyd Davies, 21 oed, a Sasha Jarvis, yn teithio mewn Vauxhall Corsa arian pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Roedd un yn gyrru a’r llall yn deithiwr pan darodd y car yn erbyn wal yn y pentref tua 6am. Y gred yw bod y gyrrwr wedi colli rheolaeth ar y car.