Y pedwar ymgeisydd
Mae’r bwcis wedi rhoi Elin Jones a Leanne Wood yn agos iawn ar y blaen heddiw yn y ras am arweinyddiaeth Plaid Cymru.

Mae cwmni betio William Hill wedi rhoi Elin Jones ar y blaen o 11/10 a Leanne Wood yn agos iawn tu ôl ar 9/4 – tra bod y dynion dipyn ar ôl.

Ar hyn o bryd, mae Dafydd Elis Thomas, Aelod Cynulliad Dwyfor Meirionydd, ar 3/1, tra bod Simon Thomas, Aelod Cynulliad Canolbarth a Gorllewin Cymru, ar 10/1.

Daw’r ods diweddaraf ar ddiwrnod sydd wedi gweld enwau cyfarwydd iawn gwleidyddiaeth Cymru yn taflu eu pwysau tu ôl i’r ddwy ddynes, gyda’r cyn-AS Adam Price yn datgan ei gefnogaeth i’r AC o’r Cymoedd, Leanne Wood, ac Aelod Seneddol Arfon, Hywel Williams, yn ychwanegu ei enw ar restr cefnogwyr yr AC o Geredigion, Elin Jones.

Wrth roi ei gefnogaeth i Leanne Wood heddiw, dywedodd Adam Price fod yr Aelod Cynulliad 40 oed yn addo angerdd, uchelgais ac egwyddor newydd i wleidyddiaeth Cymru, a’i bod hi’n cynrychioli “popeth sy’n ddiffygiol yn yr hen arweinyddiaeth Lafur.”

Ond wrth rhoi ei gefnogaeth i Elin Jones mewn darllediad fideo heddiw, dywedodd Aelod Seneddol Arfon, Hywel Williams, mai’r ddynes o Geredigion oedd â’r “weledigaeth” i arwain Cymru, a bod ganddi’r “dewrder oedd mor amlwg ymhlith arweinwyr Plaid Cymru y gorffennol.”

Wrth wneud pwynt fydd yn ddiddorol i’r rhai sy’n trio gwneud cymhariaethau rhwng yr Aelod Cynulliad dros etholaeth Ceredigion, a’r Aelod Cynulliad dros ranbarth Canol De Cymru, dywedodd Hywel Williams fod gan Elin Jones “y dewrder i sefyll mewn sedd unigol, ac ennill y sedd honno dro ar ôl tro.”

Ond yn ôl Adam Price, mae Leanne Wood yn cynrychioli’r “genhedlaeth newydd” o wleidydd sydd ei angen i arwain Cymru.

Gellir gwylio fideo cefnogaeth Hywel Williams AS i Elin Jones isod: