Angela Merkel
Mae Ffrainc a’r Almaen wedi dweud mai hybu twf economaidd ar draws gwledydd Ewrop yw eu blaenoriaeth yn eu hymdrechion i atal yr argyfwng ariannol sy’n lledu ar draws gwledydd yr ewro.

Yn dilyn cyfarfod gydag Arlywydd Ffrainc Nicolas Sarkozy ym Merlin, mae Canghellor yr Almaen Angela Merkel wedi annog Gwlad Groeg a’i chredydwyr preifat i gytuno’n fuan ar ailstrwythuro dyledion y wlad os ydyn nhw am dderbyn rhagor o arian i’w helpu.

Ym mis Hydref, roedd gwledydd parth yr ewro wedi cytuno i roi rhagor o arian i Wlad Groeg a fyddai’n golygu bod yn rhaid i gredydwyr preifat dderbyn gostyngiad o 50% yng ngwerth eu daliadau yn nyledion y wlad.

Dywedodd Angela Merkel ei bod hi a Nicolas Sarkozy yn awyddus i Wlad Groeg dderbyn yr arian a’u bod eisiau iddi aros yn rhan o barth yr ewro.

Mae’r ddau arweinydd hefyd yn ystyried cyflymu’r broses o roi taliadau i gronfa yr 17 o wledydd ym mharth yr ewro er mwyn hybu hyder. Mae nhw’n awyddus i’r arian gael ei ddefnyddio i greu swyddi.

Mae’r ddau wrthi’n llunio cyllideb newydd a chanllawiau erbyn mis Mawrth er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r argyfwng ariannol sy’n lledu drwy wledydd yr ewro.