Mae pedair gwlad wedi dweud eu bod yn bwriadu cynnal eu gwersylloedd hyfforddi yng Nghymru yn ystod y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd eleni.

Gyda 200 diwrnod i fynd cyn dechrau’r gemau, mae Pwyllgorau Olympaidd Cenedlaethol Botswana a Lesthoto, a Phwyllgorau Paralympaidd Cenedlaethol Liberia a Mecsico wedi arwyddo cytundebau i sefydlu eu gwersylloedd hyfforddi yng Nghymru.

Mae Athletics New Zealand eisioes wedi nodi eu bwriad i hyfforddi yng Nghymru, gyda chefnogaeth Pwyllgor Olympaidd Seland Newydd.

Mae’r gwledydd i gyd wedi arwyddo Memoranda Cyd-ddealltwriaeth i gytuno i baratoi ar gyfer Gemau 2012 yng Nghymru.

‘Cymru yn debyg i Botswana’

Bydd tua 20 o gystadleuwyr Botswana yn dod i Gaerdydd i hyfforddi mewn athletau a phaffio cyn y gemau. Yn ôl Pwyllgor Olympaidd Cenedlaethol Botswana, mae gan Gymru “gyfleustrau chwaraeon heb eu hail a ddylai ein helpu i baratoi ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Llundain.”

Ond mae’r Pwyllgor hefyd wedi dweud eu bod yn falch o gael eu lleoli yng Nghymru oherwydd fod Cymru “yn debyg iawn i Fotswana, o ran chwaraeon.”

Yn ôl Tuelo Serufho, Prif Swyddog Gweithredol Pwyllgor Olympaidd Cenedlaethol Botswana, mae “ambell un o’n gweinyddwyr chwaraeon gorau a’n cyn-athletwyr gorau wedi astudio yng Nghymru, ac mae ganddyn nhw lawer o bethau da i’w dweud am Gymru, yn enwedig ei chroeso.

“Mae’r Pwyllgor yn gobeithio defnyddio’r gwersylloedd hyfforddi i greu cysylltiadau da â Chymru a fydd yn para am flynyddoedd lawer i ddod.”

Mecsico ym Mhrifysgol Abertawe

Bydd gan Bwyllgor Paralympaidd Mecisco dîm o 40 o bobol wedi eu lleoli ym Mhrifysgol Abertawe cyn y Gemau, yn hyfforddi ar gyfer yr athletau, nofio, jwdo a chodi pwysau.

Yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol Pwyllgor Paralympaidd Mecsico, O Segio Durand Alcantara, mae’r lleoliad yn un “da iawn” ar gyfer cynnal eu gwersyll hyfforddi olaf cyn y Gemau Paralympaidd.

‘Gwaith caled Llywodraeth Cymru yn talu ffordd’

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi dweud ei fod “wrth ei fodd” gyda’r newyddion, a bod penderfyniad y pwyllgorau yn “adlewyrchu gwaith caled Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid dros yr ychydig fisoedd diwethaf.”

Dywedodd hefyd fod y penderfyniad yn “dangos bod gan Gymru y math o gyfleusterau a seilwaith chwaraeon y mae eu hangen ar dimau Olympaidd a Pharalympaidd.”

Yn ôl Carwyn Jones, bydd dyfodiad y gwersylloedd hyfforddi yn cynyddu’r cyfleoedd i blant lleol ehangu ar eu sgiliau chwaraeon, a datblgyu cysylltiadau “chwaraeon, addysgol a diwylliannol â gwledydd sy’n dod i Gymru.”

Mae’r newyddion hefyd wedi cael ei groesawu gan Gadeirydd Pwyllgor Trefnu Gemau Llundain 2012, Seb Coe. Yn ôl yr Arglwydd Coe, mae’n “wych clywed fod Pwyllgorau Trefnu Cenedlaethol a Phwyllgorau Paralympaidd Cenedlaethol o Affrica ac America yn parhau i ddatblygu cysylltiadau cryf gyda Chymru i helpu eu hyfforddiant cyn Llundain 2012.”

Mae disgwyl i o leiaf 19 o wahanol wledydd fod â thimau yn hyfforddi yng Nghymru erbyn Gemau Olympaidd a Pharalympaidd 2012, sy’n golygu y bydd bron i 1,000 o athletwyr a staff cymorth, a miloedd o bunnoedd o fuddsoddiad uniongyrchol yng Nghymru, yn ôl Llywodraeth Cymru.