Shân Cothi
Yr wythnos nesaf bydd cyfres newydd ar S4C yn dilyn cwmni Decca, un o gwmnïau recordio mwya’r byd wrth iddyn nhw geisio dod o hyd i’r seren ganu nesaf o Gymru.
“Yn y gyfres newydd Llais i Gymru byddant yn chwilio am y canwr neu gantores â’r llais, y bersonoliaeth, y ddelwedd ac wrth gwrs y gallu i werthu miliynau o recordiau,” meddai llefarydd ar ran S4C. Bydd y gyfres yn dechrau nos Fawrth nesaf, 10 Ionawr.
Y gantores Shân Cothi, mewn cydweithrediad â’r asiant dalent Sioned James o Gaerdydd, fydd yn dilyn y pedwar ymgeisydd terfynol ar daith heriol wrth iddyn nhw ddatblygu eu sgiliau er mwyn creu argraff ar banel o arbenigwyr. Y gobaith ydy ennill cytundeb recordio. Os bydd seren go iawn ymhlith y pedwar ymgeisydd terfynol, mi fydd yr artist yn cael ei lansio fel talent newydd yn fyd-eang.
Bydd y cantorion yn dod o dan chwyddwydr y tri fydd ar y panel – Mark Wilkinson, Rheolwr Gyfarwyddwr Decca, Tom Lewis, Pennaeth Artists and Repertoire Decca, a Sioned James, yr asiant a’r arweinydd corawl adnabyddus.
Meddai Shân, “Mae yna ddiddordeb aruthrol wedi bod yn y gystadleuaeth, gyda dros 600 o bobl o bob oedran a chefndir yn ymgeisio am le yn y gyfres. Mae Llais i Gymru yn gyfle gwych i ganwr neu gantores gael y dechrau gorau posibl fel seren ganu broffesiynol.
“Bydd y gyfres yn dilyn eu taith gyffrous o’r clyweliad cyntaf i’r sioe olaf. Mae’r pedwar ymgeisydd terfynol yn cael y cyfleoedd a’r hyfforddiant gorau posibl gan fentoriaid wrth ddatblygu sgiliau llais, recordio, coreograffi a chyhoeddusrwydd. Dyma brofiadau a fydd yn werthfawr iddyn nhw i gyd yn y byd proffesiynol.”
Yn ogystal â dilyn yr ymgeiswyr ar eu taith trwy’r broses o ehangu eu talent a’u profiadau mae’r gyfres yn bwrw cip y tu ôl i’r llenni ar y diwydiant cerddoriaeth gan ddatgelu’r hyn sy’n digwydd tu ôl i ddrysau’r stiwdios recordio.
Fe fydd artistiaid mawr y diwydiant, fel Bryn Terfel, Alfie Boe a Wynne Evans yn rhannu eu hatgofion o glyweliadau ac yn cynnig cyngor gwerthfawr.
Daw’r gyfres i ben wrth i’r pedwar olaf berfformio yn Llundain o flaen cynulleidfa ddethol o wynebau amlwg o’r byd cerddoriaeth. Yn dilyn hyn bydd y panel yn datgelu a fydd un ohonynt yn deilwng o’r fraint i fod yn ‘Llais i Gymru’.