Robbie Savage
Mae llun noeth o un o gyn-sêr tîm pêl-droed Cymru a Strictly Come Dancing wedi ei ddatgelu heddiw, a hynny er mwyn tynnu sylw dynion at ganser y ceilliau.

Mae elusen Everyman wedi recriwtio Robbie Savage, sy’n 37 oed, er mwyn hyrwyddo’u hymgyrch i dynnu mwy o sylw at broblem y canser.

Dyma’r math mwyaf cyffredin o ganser ymhlith dynion rhwng 15 a 44 oed.

Mae’r dyn 6”1’ o Wrecsam wedi diosg ei ddillad ar gyfer tudalennau canol cylchgrawn Cosmopolitan ym mis Chwefror, gyda’r bwriad o dynnu sylw at y canser, sy’n effeithio 2,000 o ddynion bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig.

Mae’r tad i ddau yn dweud fod yr ymgyrch yn agos iawn at ei galon wedi i’w ffrind a’i gyd-chwaraewr yng ngharfan Cymru, John Hartson, ddioddef o ganser y ceilliau.

“Mae ymgyrch canser y ceilliau Everyman yn agos at fy ’nghalon i. Daeth fy ffrind, John Hartson, o hyd i lwmpyn, ond gwrthododd weld doctor am dair blynedd – bu bron iddo farw o’i herwydd.”

Ym mis Gorffennaf 2009, cafodd John Hartson, 36, driniaeth chemotherapi ar ôl darganfod fod canser y yn y ceilliau wedi lledu i’w ymennydd.

Yn ddiweddarach daeth i’r amlwg fod y canser wedi lledu i’w ysgyfaint, ac fe fu mewn cyflwr difrifol am gyfnod yn sgil triniaethau brys.

Ond fe fu’r driniaeth yn llwyddiannus, ac erbyn mis Rhagfyr y flwyddyn honno cafodd John Hartson glywed fod y canser wedi diflannu bron yn llwyr.

Mae elusen Everyman yn dweud fod datblygiadau yn y Sefydliad Ymchwil Canser, sef cartref yr elusen, yn golygu bod nawr bosib trin 95% o ganser y ceilliau.

Savage yn ôl gyda Strictly

Mae Robbie Savage newydd orffen cymryd rhan yn y nawfed gyfres o Strictly Come Dancing, lle bu’n diddanu miliynau mewn perfformiadau ar y cyd â’i bartner dawnsio, Ola Jordan.

Er gwaetha’ poblogrwydd y cwpwl, drymiwr McFly, Harry Judd â’i bartner dawnsio Aliona Vilani gyrhaeddodd y brig.

Ond fe fydd Robbie Savage yn ail-ymuno â chriw Strictly yn yr wythnosau nesaf, er mwyn mynd ar daith Strictly Come Dancing ar draws Prydain rhwng 20 Ionawr a 26 Chwefror.