Ed Miliband
Mae Llafur wedi gwadu fod hollt o fewn y blaid heddiw ar ôl i aelod o gabinet yr wrthblaid awgrymu y dylai eu polisi fod yn agosach at y Ceidwadwyr.

Dywedodd Jim Murphy fod angen i bolisi ariannol y blaid fod yn fwy “credadwy” ac y dylen nhw ddangos yn union ble y bydden nhw’n torri’n ôl ar wariant cyhoeddus.

Ychwanegodd llefarydd yr wrthblaid ar amddiffyn ei fod yn derbyn toriadau £5 biliwn y llywodraeth i’r adran ac y byddai yn rhaid i Lafur wneud toriadau tebyg pe baen nhw mewn grym.

Mae’r Ceidwadwyr wedi honni fod ei sylwadau, mewn cyfweliad â phapur newydd y Guardian, yn gyfystyr ag ymosodiad ar ei blaid ei hun.

Mae arweinydd y blaid, Ed Miliband, a Changhellor yr wrthblaid, Ed Balls, wedi bod yn dadlau o blaid toriadau arafach i wario’r llywodraeth.

Ond mynnodd ffynhonnell sydd yn agos at Jim Murphy mai “creu trwbl” oedd nod y Ceidwadwyr a bod Ed Balls eisoes wedi dweud fod yn rhaid torri nôl ar wario cyhoeddus.

“Mae’n bwysig bod yn gredadwy yn ogystal ag yn boblogaidd wrth drafod buddsoddiad yr y weinyddiaeth amddiffyn,” meddai Jim Murphy wrth y Guardian.

“Mae’n amhosib cynnal poblogrwydd heb hygrededd.”