Mae pris tanwydd yn effeithio dros 45,000 o deuluoedd yng Nghymru, a phlant sy’n dioddef gwaethaf, yn ôl elusen Achub y Plant.

Mae’r elusen yn galw am fwy o gefnogaeth i rieni i dalu eu biliau trydan y gaeaf hwn, er mwyn arbed teuluoedd rhag gorfod ymdopi heb wres.

Mae’r elusen yn dweud bod byw mewn tŷ oer a llaith yn gallu arafu datblygiad plant, gwaethygu problemau iechyd tymor-hir, gan greu cyflyrau fel asthma, a golygu bod mwy o blant yn gorfod mynd i’r ysbyty.

Yn ôl ymchwil yr elusen, mae 800,000 o deuluoedd tlotaf Prydain yn gymwys i dderbyn gostyngiad gwerth £120 ar eu biliau trydan dan amodau presennol Llywodraeth Prydain, ond oherwydd diffyg cyllid dim ond 25,000 o gartrefi fydd yn elwa o’r cynllun.

Dangosodd arolwg diweddar gan gwmni USwitch mai yng Nghymru roedd y lefel uchaf o dlodi tanwydd ar draws holl wledydd Prydain, gyda 32% o aelwydydd yn dioddef.

Mae’r ymchwil yn dangos fod o leia’ 45,280 o deuluoedd a phlant yng Nghymru yn gymwys ar gyfer taliadau i’w helpu i ddelio â’r tywydd oer, ond nad oes llawer ohonyn nhw wedi clywed na derbyn unrhyw wybodaeth ar sut i wneud cais amdanyn nhw.

Gwres neu fwyd?

Mae arolwg Achub y Plant yn datgelu bod nifer o rieni nawr yn gorfod ystyried dewis rhwng talu am fwyd neu dalu am danwydd y gaeaf hwn, a hynny wrth i’r pryderon gynyddu ynglŷn ag effaith tymheredd y cartref ar iechyd plant.

Mae’r elusen nawr eisiau gweld cyflenwyr ynni a’r llywodraeth yn creu cronfa ariannol ar frys, er mwyn rhoi gostyngiad yn y pris i bobol sydd mewn gwir angen – a marchnata’r help hynny yn well.

Yn ôl James Pritchard, pennaeth Achub y Plant Cymru, mae’r sefyllfa yn “annerbyniol.”

“Heb y cymorth yma mae penderfyniadau amhosib yn wynebu rhieni: torri yn ôl ar fwyd, mynd i ddyled neu roi iechyd eu plant yn y fantol,” meddai.

“Mae angen i’r cyflenwyr ynni roi miliynau yn ychwanegol i mewn i’r cynllun, neu’r plant fydd yn talu’r pris.”