Mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, wedi ymosod yn hallt ar y Prif Weinidog Carwyn Jones am ddadlau dros berthynas newydd rhwng Cymru ac Ewrop.
Roedd yn ymateb i sylwadau diweddar gan Carwyn Jones yn beirniadu Prif Weinidog Prydain, David Cameron, am beidio ag ymgynghori â Llywodraeth Cymru cyn defnyddio feto i wrthod cytundeb yn yr Undeb Ewropeaidd.
Yn ôl Carwyn Jones, roedd hyn yn dangos yr angen ar i Gymru ddatblygu rhagor o gysylltiadau uniongyrchol â’r Undeb Ewropeaidd.
“Yr hyn y mae Carwyn Jones yn dadlau drosto mewn gwirionedd yw annibyniaeth,” meddai Cheryl Gillan.
“Dyw Cymru ddim yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd; y Deyrnas Unedig sy’n aelod. Does gan Lywodraeth Cymru ddim sedd yng Nghyngor y Gweinidogion; gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig y mae hynny.
“Os nad yw’r Prif Weinidog yn dadlau y dylai Cymru gael y ddau beth, dylai ei weinyddiaeth wneud mwy o ymdrech i weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’i gweinidogion, yn lle bod yn gynyddol wrthwynebus tuag at y ddau.”
Dywedodd fod yn rhaid gofyn pam fod Carwyn Jones “mor awyddus i ddilyn ei bolisi tramor ei hun” pan oedd wedi “methu” gyda’i bolisïau yng Nghymru.
“Dim ond dau Fesur sydd wedi cael eu cyhoeddi ers i’r Cynulliad ennill pwerau newydd yn y refferendwm ym mis Mawrth,” meddai Cheryl Gillan, Aelod Seneddol Chesham ac Amersham.
“Ac mae rhestr barhaol druenus o ystadegau ar bopeth o ganlyniadau iechyd i berfformiad arholiadau yn y meysydd lle mae gan y weinyddiaeth Lafur yng Nghymru gyfrifoldeb llwyr.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Wrth ymateb i’w sylwadau, meddai ffynhonnell o fewn Llywodraeth Cymru:
“Wnawn ni ddim cymryd unrhyw wersi gan y Toriaid ar wasanaethau cyhoeddus. Dylai’r Ysgrifennydd Gwladol edrych yn fanylach ar y difrod y mae’r polisiau Toriaidd o breifateiddio’n eu hachosi ar iechyd, addysg a llywodraeth leol ar draws y ffin cyn beirniadu rhai Llywodraeth Cymru.
“Mae’r ffordd y mae’r Toriaid yn ein hynysu ar yr ymylon, pan ddylen ni fod yng nghanol yr holl ddadl Ewropeaidd, yn fygythiad difrifol i fuddiannau pobl Cymru yn y dyfodol.”
Ac meddai llefarydd ar ran Llafur Cymru:
“Dyw Llafur Cymru ddim yn ymddiheuro am fod eisiau Cymru cyn gryfed ag sy’n bosibl yn yr Undeb – yn wahanol i Cheryl Gillan, sydd fel petai hi’n dadlau dros Gymru sy’n gwybod ei lle ac nad yw’n gwthio’n rhy galed nac yn gwneud gormod o sŵn.”