Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn wedi’i anafu gael ei ddarganfod ar ochr rheilffordd ar gyrion Abertawe bnawn dydd Mawrth.

Cafodd Simon Menalaus ei weld gan beirianwyr yn gweithio ar y rheilffordd yng Nghwmrhydyceirw, gerllaw Treforys

Roedd y dyn 38 oed yn dioddef o anafiadau difrifol i’w frest a’i ben, a’r tro diwethaf i’w deulu ei weld oedd noson Nadolig.

Ni chred yr heddlu fod Simon Menelaus, sydd mewn cyflwr ‘difrifol ond sefydlog’ yn Ysbyty Prifysgol Cymru, Caerdydd, wedi cael ei daro gan drên nac wedi dioddef ymosodiad.

Ond maen nhw’n awyddus i gael unrhyw wybodaeth am ei symudiadau rhwng 8pm noson Nadolig a 1.30pm ddydd Mawrth.

“Oherwydd ei anafiadau, dyw swyddogion ddim wedi gallu siarad gyda Simon eto i ddarganfod sut y cafodd ei anafu ac amgylchiadau llawn y digwyddiad,” meddai’r Ditectif Brif Arolygydd John Pyke.

“Mae’n hanfodol felly ein bod ni’n darganfod lle mae wedi bod a gyda phwy’r oedd fel y gallwn adeiladu darlun llawn o’r hyn a ddigwyddodd.”

Gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar 0800 405040.