Andew R T Davies, Arweinydd yr Wrthblaid yn y Cynulliad
 Mae angen i Lywodraeth Cymru gydweithio mwy gyda Llywodraeth Prydain yn lle gweld bai o hyd, yn ôl arweinydd yr wrthblaid yn y Cynulliad.

 Yn ei neges flwyddyn newydd, mae Andrew R T Davies yn galw ar y Llywodraeth Lafur i ganolbwyntio ar weithredu fel yr addawodd yn yr etholiad diwethaf.

 Mewn beirniadaeth lem o Carwyn Jones, rhybuddia arweinydd y Ceidwadwyr fod perygl i Lafur wastraffu pwerau newydd y Cynulliad i ddeddfu.

 “Tra bo’r Prif Weinidog yn hapus i daflu bai ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig wythnos ar ôl wythnos, mae’r pwerau sydd ganddo yn ei ddwylo’i hun yn hel llwch,” meddai.

 “Fis Mawrth y llynedd, fe wnaeth pleidlais refferendwm hanesyddol dros Gynulliad Deddfwriaethol newid tirwedd gwleidyddol Cymru am byth. Roedd yn foment bwysig a ddylai lunio dyfodol nodedig i’n gwlad.

 “Ond wrth inni fynd i mewn i 2012, mae posibilrwydd gwirioneddol i’r pwerau newydd hyn gael eu gwastraffu’n llwyr. Heb fawr ddim deddfwriaeth wedi cael ei basio ar lawr y Cynulliad hyd yma, mae Llafur yn bwriadu defnyddio’r pwerau newydd yn fuan i ddeddfu ar lonydd beicio.

 “Mae angen i Lafur ailfeddwl ei flaenoriaethau dros y 12 mis nesaf.

 “Rhaid i’r Prif Weinidog roi’r gorau i weld bai o hyd a chanolbwyntio ar gyflawni a chydweithredu. Mae cydweithredu adeiladol gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig am fod yn allweddol wrth fynd i’r afael â heriau economaidd 2012.”