Bu’n rhaid i 13 o bobol adael tŷ yn Rhyl yn oriau man y bore oherwydd tân.
Mae’r gwasanaethau brys yn ymchwilio i beth achosodd y tân ar Water Street y dref.
Cafodd y gwasanaeth tân ac achub eu galw am 1.28am bore ma. Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod nhw’n credu fod carped wedi cynnau.
Cafodd ambell un ei drin am anadlu mwg.