Jamie Roberts
Chwe wythnos cyn i Bencampwriaeth y Chwe Gwlad ddechrau, mae canolwr Cymru, Jamie Roberts, wedi ei anafu.

Mi gafodd y chwaraewr 25 oed ei anafu yn y gêm rhwng y Gleision a’r Dreigiau neithiwr.

Roedd yn rhaid iddo adael y cae ar ôl 64 munud. Cyn hynny, roedd wedi derbyn triniaeth ar ei ben-glin ddwywaith yn ystod y gêm.

Bydd gêm gyntaf Cymru yn y Bencampwriaeth yn erbyn yr Iwerddon yn Nulyn ar Ddydd Sul, 5 Chwefror.