Bydd golygfeydd ar gyfer ffilm am fywyd y cyn chwaraewr rygbi Gareth Thomas yn cael eu ffilmio yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad y flwyddyn nesaf.

Bydd golygfeydd gemau rygbi ar gyfer y ffilm yn cael eu ffilmio yn Ne Affrica hefyd.

Mickey Rourke fydd yn chwarae rhan Gareth ac mae wedi dweud y bydd angen iddo hyfforddi am naw i unarddeg mis er mwyn chwarae’r rhan.

Gareth oedd y Cymro cyntaf i ennill 100 cap rhyngwladol. Fe gyhoeddodd ei fod am ymddeol o’r gamp ym mis Hydref eleni.

Cyn ymddeol roedd wedi symud at rygbi’r gynghrair, ac yn aelod o dîm y Crusaders oedd â’i gartref yn Wrecsam.

Mae wedi cael ei ganmol am ei ddewrder yn cyhoeddi ei fod yn hoyw. Ers iddo wneud ei ddatganiad yn 2009 mae eraill wedi ei ddilyn, gan gynnwys y cricedwr rhyngwladol Steven Davies a’r nofiwr o Awstralia, Daniel Kowalski.