Mae pryderon dros ddyfodol Gwyl Jazz Aberhonddu heddiw, wedi i ’r trefnwyr tu ol i Wyl y Gelli gyhoeddi eu bod yn rhoi’r gorau i gynnal yr wyl.

Mae trefnwyr Gwyl y Gelli wedi dweud eu bod nhw’n dymuno canolbwyntio ar ddathlu 25 mlwyddiant yr wyl lenyddol yn y Gelli Gandryll eleni, ac felly wedi dod a’u cyfnod yn trefnu a chydlynnu’r wyl i ben.

Dechreuodd Gwyl y Gelli gynnal yr Wyl Jazz yn 2009, ar ol i’r wyl ddioddef colledion ariannol sylweddol y flwyddyn gynt.

Mae Cyngor y Celfyddydau Cymru wedi dweud y bydd y cyllid a dderbyniodd Gwyl y Gelli i gynnal yr Wyl Jazz, sef £125,000 y flwyddyn, nawr ar gael i hyrwyddwyr eraill sy’n fodlon cydlynnu’r digwyddiad.

Dywedodd cyfarwyddwr Gwyl y Gelli, Peter Florence, heddiw, eu bod wedi “cyflawni ein cytundeb gyda Chyngor y Celfyddydau Cymru i achub Gwyl Jazz Aberhonddu o’i methiant yn 2008, ac i gyflwyno fformat newydd i’r wyl am dair blynedd.

“Mae wedi bod yn anrhydedd i weithio gyda cherddorion mor anhygoel,” ychwanegodd.

“Rydyn ni nawr yn canolbwyntio ar ein gwaith ar gyfer 2012 yn y Gelli Gandryll a’r 25 mlwyddiant flwyddyn nesaf, ac ar drefniadau eraill yn ein tref ni ein hunain.”

Dywedodd ei fod yn ddiolchgar iawn i “Gyngor y Celfyddydau Cymru a Chyngor Sir Powys, ac i Ffrindiau Jazz Aberhonddu am eu cefnogaeth.”

Dywedodd Peter Florence y byddai dyfodol yr Wyl Jazz nawr yn fater i’r awdurdodau a’r bobol leol ei drafod rhyngddyn nhw.

“Rydyn ni’n cael ar ddeall y bydd Cyngor y Celfyddydau nawr yn cynnal trafodaethau gyda Chyngor Sir Powys ynglyn a ffyrdd o gynnal yr wyl yn y dyfodol.”

Mae Gwyl Jazz Aberhonddu wedi ei sefydlu ers 1984, ac mae’n cael ei chynnal ym mis Awst bob blwyddyn, gan ddenu cerddorion jazz o bob cwr o Brydain a’r byd.