Yr Angen
Ynghynt yn y mis fe lansiwyd albwm cyntaf y grŵp ifanc o Abertawe, Yr Angen.

Mae Gorffen Nos yn gasgliad wyth trac sy’n crynhoi profiad person ifanc yn Abertawe, ac yn benodol Jac Davies, prif ganwr y grŵp.

“Mae’r albwm yn sôn am y profiadau ry’n ni wedi cael yn Abertawe, ond gan mai Jac sy’n sgrifennu’r caneuon mae’n sôn yn fwy am ei brofiadau e’,” meddai Dai Williams, drymiwr Yr Angen wrth Golwg360.

‘Noson taclus’

Daeth Yr Angen i amlygrwydd gyntaf llynedd yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2.

Nhw ddaeth i’r brig yn y gystadleuaeth honno, gyda’r gân ‘Nawr Mae Drosto’ yn syfrdanu’r beirniaid efallai’n fwy na’r un gân yn y gystadleuaeth cyn hynny.



Nawr Mae Drosto
gan Yr Angen

Mae’r gân honno ar yr albwm newydd, yn ogystal â nifer o ganeuon eraill sy’n adlewyrchu noson allan yn ninas Abertawe.

“Mae’r rhan fwyaf o’r caneuon yn sôn am ddigwyddiadau ar noson mas.

Mae ‘Boi Bach Skint’, un o’r traciau sy’n sefyll allan ar yr albwm, yn gân am Jac yn gorfod benthyg arian gan ei frawd i fynd allan, ac yna’n sôn am holl ddigwyddiadau’r noson honno. “Yn y bôn mae’n troi mas i fod yn ‘noson taclus’” meddai Dai.

Ai dyma’r diweddaraf o gyfres o albyms cysyniadol Cymraeg felly?

“Mae rhyw fath o gysyniad i’r albwm gan fod Jac wedi cyfansoddi’r rhan fwyaf o’r caneuon yn oriau mân y bore, neu am brofiadau mae wedi’u cael ar noson mas. Dyna pam mai Gorffen Nos ydy enw’r albym.”

Dinas brydferth o salw?

Mae’n amlwg fod dinas Abertawe’n thema bwysig ar yr albwm, ac mae ardal eu magwraeth wedi dylanwadu’n fawr ar y grŵp ifanc.

“Yn sicr mae Abertawe wedi bod yn ddylanwad ar yr albwm gan fod  rhan fwyaf y caneuon am nosweithiau mas, partïon, cyn gariadon ac ati.”

“Ond yn y bôn, dyfyniad o’r ffilm Twin Town sy’n disgrifio’r lle orau i mi sef ‘Pretty shitty city’, ond mae’n gartref i ni ac hefyd wedi chwarae rhan bwysig iawn yn ein plentyndod.”

Dylanwad mawr

Mae’n amlwg fod ardal eu magwraeth wedi dylanwadu’n fawr ar y grŵp, ond mae Dai Williams yn nodi un dylanwad mawr arall arnyn nhw wrth drafod yr albwm newydd.

“Hoffwn ddweud fod yr albwm wedi cael ei dedicato i fy mam, Margaret, a oedd yn gefnogwr enfawr i’r band.

“Yn anffodus bu iddi farw bum mlynedd nôl, ond yn sicr bydde hi’n falch iawn ohonom i gyd am lle ni wedi cyrraedd hyd hyn.”

Yn ôl y drymiwr mae llawer mwy i ddod gan Yr Angen, ac maen nhw’n credu y byddan nhw’n mynd o nerth i nerth o hyn ymlaen.

Mae bwriad i ryddhau sengl yn y flwyddyn newydd ac maen nhw hefyd yn cynllunio eu dau albwm nesaf yn barod!

“Ni’n mynd i geisio chwarae lot o gigs i hysbysebu yr albwm yma ond ma hefyd llawer mwy o ganeuon gyda ni ac ma Jac wedi cynllunio albwm nesaf ni, ac hyd yn oed y trydydd albwm yn barod!”

“Felly gobeithio bydd Sbrigyn Ymborth [label y grŵp] yn gadael ni i wneud y rhain cyn hir!”

Mae albwm cyntaf Yr Angen, Gorffen Nos, allan ar label Sbrigyn Ymborth rŵan am £7.99.