Owain Schiavone sy’n dewis y ddeg cân orau i’w rhyddhau gan fandiau Cymraeg cyfoes yn 2011.
Mae hi wedi bod yn flwyddyn fach dda o ran y cynnyrch Cymraeg newydd sydd wedi’i ryddhau. Mae nifer fawr o albyms newydd wedi dod i’r golwg tra bod eraill wedi penderfynu ar fformat sengl, EP a rhyddhau’n electronig.
Nid yn unig fod nifer y caneuon newydd wedi bod yn gadarnhaol, ond mae amrywiaeth a safon y stwff newydd sydd wedi ymddangos yn gadarnhaol iawn.
Gan fod y fath gyfoeth ar gael i ddewis ohono, dyma grynhoi fy 10 hoff gân o 2011 fel rhyw ’10 uchaf cerddorol’ ar ddiwedd y flwyddyn, gan ddechrau gyda’r 5 cyntaf.
10. Geiriau Hurt fy Mabi – Plant Duw
Geiriau Hurt Fy Mabi gan Plant Duw
Dwi ddim yn meddwl fod ail albwm Plant Duw, Distewch, Llawenhewch, yn gystal albwm â’r gyntaf, Y Capel Hyfryd, ond mae ‘na ambell berl arno’r un fath! Mae ‘Tawelan’ yn drac gwych, tra bod ‘Nos Da’ yn ddiweddglo epig, ond mae ‘Geiriau Hurt fy Mabi’ wastad yn dod â gwen i’r wyneb yn ffordd ryfedd a ddihafal Plant Duw.
9. V moyn T – Colorama
COLORAMA – V Moyn T gan See Monkey Do Monkey
Y gân sydd wedi ei chwarae fwyaf ar y tonfeddi o’r chwe chân Gymraeg ar y cryno albwm, Llyfr Llywio a ryddhawyd ym mis Hydref. Hawdd gweld pam hefyd wrth i’r riff gitâr ddal eich sylw o’r trawiad cyntaf, gan wneud i chi feddwl fod rhywbeth arbennig ar fin digwydd. Dewis amlwg efallai, ond pan lai!
8. Cerdded – Yr Ods
Cerdded gan label_copa
Mae albwm newydd Yr Ods, Troi a Throsi, yn fwy o gyfanwaith nag eu cynnyrch blaenorol. Mae’n anodd dewis un gân sy’n sefyll allan ond rhaid cynnwys un ar y rhestr gan ei fod yn albwm cystal. Dwi’n hoff iawn o’r gân sy’n rhannu enw’r albwm, ond mae’n siŵr mai’r drydedd cân ar y casgliad, ‘Cerdded’, yw’r fwyaf cofiadwy.
7. Madfall – Jen Jeniro
Mae feinyl wedi bod yn gyfrwng poblogaidd eleni, ac roedd Jen Jeniro’n un o’r grwpiau i ddefnyddio’r cyfrwng gyda’u EP Swimming Limbs. Efallai nad oedd Madfall mor fachog â’u sengl Dolffin Pinc a Melyn llynedd, ond mae’n arddangos creadigrwydd ac aeddfedrwydd y grŵp sydd wrthi ers chwe blynedd bellach.
6. Dyma Lythyr – Huw M
Dyma lythyr gan gwymon
Fel anrheg Nadolig cynnar wele ail albwm Huw M a ryddhawyd ddiwedd mis Tachwedd. Mae Gathering Dusk yn ddatblygiad o’i record gyntaf Os Mewn Sŵn, ac yn siŵr o ymddangos yn uchel yn rhestrau albyms gorau’r flwyddyn. ‘Dyma lythyr’ ydy ail drac y casgliad newydd ac mae’n crynhoi’r adeiladwaith a phlethiad sy’n nodweddu cerddoriaeth Huw M. Mae ‘Chwyldro Tawel’ ac ‘Ystafelloedd Gwag’ hefyd yn hyfryd.
Dyna ni wedi cyrraedd hanner ffordd…byddai’n rhestru rhifau 5 i 1 fory(cliciwch yma i ddarllen rhifau 5 i 1).