Mae streic tridiau gan 500 o gerddorion Cymru wedi dod i ben am y tro yn dilyn trafodaethau gyda’r BBC yn ystod y dydd ddoe.
Roedd Cynghrair Cyhoeddwyr a Chyfansoddwyr Cerdd wedi dechrau streic ddoe yn atal Radio Cymru rhag chwarae eu caneuon. Roedden nhw’n streicio yn erbyn y “taliadau pitw” y maen nhw’n eu cael gan y BBC am chwarae eu cerddoriaeth ar Radio Cymru.
Mae’r BBC wedi dadlau ar hyd yr adeg nad dadl rhwng y Gorfforaeth â’r cerddorion yw hon, ond un rhwng y corff breindaliadau PRS a’u haelodau, sef y cerddorion.
Dywedodd Dafydd Roberts, prif weithredwr Sain a llefarydd ar ran y cerddorion ar BBC Radio Cymru bore ma, ei fod yn croesawu penderfyniad y BBC a PRS “i drafod gwerth economaidd cân Gymraeg” yn y trafodaethau rhang y tair ochr, a fydd yn cael eu cynnal ym mis Ionawr.
“Cam cyntaf yw hyn, wrth gwrs,” meddai.
Mae Siân Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni Cymraeg BBC Cymru, wedi croesawu’r newyddion gan ddweud ei god yn “gyfle gwirioneddol” i geisio datrys y broblem.
Ddoe, dywedodd llefarydd ar ran y BBC wrth Golwg 360 eu bod yn “hynod o siomedig” bod y trafodaethau wedi methu a bod “BBC Cymru a’r BBC yn ganolog wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i geisio datrys yr anghydfod.”
Yn ôl y BBC, maen nhw wedi bod yn “gwbl ymroddedig i geisio datrys yr anghydfod a chwilio am atebion.”
Ychwanegodd y llefarydd bod “Radio Cymru yn gwbl ddibynnol ar gerddorion Cymraeg er mwyn gallu cynnal darpariaeth ddyddiol yr orsaf.”