Mae’r ymgyrch o blaid sefydlu parth .Cymru i Gymru wedi cyhoeddi heddiw na fyddwn nhw mwy na thebyg ddim yn gallu parhau â’u cais.

Dywedodd yr ymgyrchwyr bod Llywodraeth Cymru wedi gwahodd cwmni Nominet o Rydychen, sy’n rhedeg parth .uk, i gystadlu am eu cefnogaeth ariannol.

Mae grŵp dotCYM, dan arweiniad Siôn Jobbins, wedi bod yn ymgyrchu dros sefydlu parth ‘.cym’ ac yna ‘.cymru’ ar y we ers 2006.

Ond yn ddiweddar mae Nominet hefyd wedi dangos diddordeb mewn gwneud cais er mwyn cael cyfrifoldeb dros y parth.

Daeth i’r amlwg fis diwethaf fod y Llywodraeth yn ffafrio creu parth ‘.wales’ yn hytrach na ‘.cymru’.

Ac ers 9fed Rhagfyr mae gwahoddiad cyhoeddus i unrhyw gwmni i gystadlu am berchnogaeth a rheolaeth dros yr enw Cymreig ar-lein.

“Cafodd y fenter ddiwylliannol dotCYM ei greu yn arbennig er mwyn gweithio’n agos gyda’r Llywodraeth i greu PLU fyddai’n atebol i’r Cymry,” meddai Maredudd ap Gwyndaf,
Cyfarwyddwr dotCYM.

“Nid oes ganddi’r adnoddau dynol nac ariannol i gystadlu yn erbyn corfforaeth fawr, gyfoethog sy’n amddiffyn ei monopoli o’r farchnad – yn enwedig pan fod ganddi gefnogaeth gref o’r gwasanaeth sifil a’r llywodraeth.
“Gall unrhyw gwmni mawr yn y byd nawr gystadlu am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i fod yn berchen ar ac i redeg enw Cymru ar-lein.

“Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw gymuned arall sy’n gwneud hyn. Mae llywodraethau Llundain, yr Alban, Llydaw, Gwlad y Basg a Galisia, yn ddealladwy, yn amddiffynnol o’u parthau lefel-uchaf.

“Felly maent yn gweithio’n agos gyda chwmnïau lleol i’w rhedeg ac ond yn cael cwmnïau o’r tu allan i redeg yr ochr dechnegol.

“Mae dotCYM wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru yn yr un modd am bedair blynedd ond newidiodd y sefyllfa pan ddaeth Edwina Hart yn weinidog gyda chyfrifoldeb am barth lefel-uchaf Cymru.

“Mae’n debygol nawr taw Nominet fydd yn ennill a bydd yn ceisio am .wales. Efallai geith ei berswadio i geisio am .cymru hefyd, ond, gan nad yw’n atebol i neb, does neb yn gallu sicrhau y byddant yn ei farchnata neu ei reoli’n dda.

“Nominet fydd yn berchen ar y PLU ac ni fydd Cymru byth yn gallu adennill perchnogaeth na rheolaeth ohoni.”