Abertawe
Mae’r ffaith fod clwb pêl-droed Abertawe yn yr Uwch Gynghrair yn rhoi hwb i dwristiaeth yn yr ardal, yn ôl Cyngor y Ddinas.

Maen nhw’n hawlio bod ymweliadau â safleoedd Bae Abertawe ar y We ac ar rwydweithiau cymdeithasol wedi cynyddu’n sylweddol.

Mae ymweliadau â Facebook wedi codi 73% ers y llynedd, medden nhw, ac ymweliadau â gwefan Bae Abertawe wedi codi 37% y mis Tachwedd hwn o gymharu â’ r llynedd.

Yn ôl yr adran dwristiaeth, mae 2,300 o bobol wedi gofyn am daflen wyliau’r ardal ers i dymor yr Uwch Gynghrair ddechrau.

“R’yn ni’n cydnabod pwysigrwydd bod yn yr Uwch Gynghrair ac yn gwneud popeth allwn ni i annog pobol i dreulio amser ym Mae Abertawe, yn hytrach na gyrru mewn a mas ar gyfer y pêl-droed,” meddai’r Cynghorydd Graham Thomas, yr aelod cabinet sy’n gyfrifol am dwristiaeth.

“Mae’r ymateb hyd yn hyn yn dangos fod Abertawe’n gwneud argraff fawr ar gefnogwyr sy’n ymweld ac mae llawer wedi trefnu tripiau i ddod yn ôl yn y dyfodol, hyd yn oed pan nad oes yna bêl-droed.”